Ymddiheuriad Rennard 'wedi ei ddal yn ôl'

  • Cyhoeddwyd
Aglwydd Rennard
Disgrifiad o’r llun,
Mae llythyr yr Arglwydd Rennard yn dweud ei fod eisiau "dod a'r mater i ben"

Mae cyn arweinydd y Democratiaid Rhyddfrydol Cymreig wedi dweud wrth BBC Cymru bod cyfreithwyr y blaid wedi dal ymddiheuriad yr Arglwydd Rennard yn ôl tan ar ôl yr etholiad Ewropeaidd yr wythnos diwethaf.

Dywedodd yr Arglwydd Carlile bod rhai aelodau o'r blaid gan gynnwys Nick Clegg wedi gweld y llythyr, oedd yn ymwneud a honiadau o aflonyddwch rhywiol, wythnosau ynghynt.

Ond roedd yr Arglwydd Rennard wedi gofyn i'w gadw yn ôl tan ar ôl i'r pleidleisio orffen.

Yr wythnos yma, fe wnaeth yr Arglwydd Rennard, sydd wedi ei wahardd o'r blaid, ymddiheuro am ei ymddygiad tuag at aelodau o'i blaid - un ohonyn nhw yn Gymraes.

Cwyn

Roedd pedair dynes wedi cwyno am ymddygiad yr arglwydd, gan gynnwys yr ymgyrchydd dros y Democratiaid Rhyddfrydol Cymreig, Alison Goldsworthy, a'r cyn ymgynghorydd i Lywodraeth Cymru, Bridget Harris.

Roedd ymchwiliad mewnol o fewn y Democratiaid Rhyddfrydol wedi dod i'r casgliad fod yr honiadau yn rhai credadwy ond nad oedd modd eu profi.

Ond mae'r Arglwydd Rennard wedi cydnabod fod posibiliad ei fod wedi "tresmasu ar ofod personol" unigolion, heb iddo sylwi ei fod yn gwneud.

Yn ei lythyr i'r pedair dynes oedd wedi gwneud yr honiadau, dywedodd yr Arglwydd Rennard ei fod yn "datgan ei edifeirwch am unrhyw niwed neu embaras" oedd wedi cael ei achosi.

Er gwaethaf yr ymddiheuriad, mae Ms Goldsworthy a Ms Harris yn galw am ei wahardd yn barhaol.