Rhybudd newydd am 'gyffuriau cyfreithlon'
- Cyhoeddwyd

Mae'r heddlu wedi cyhoeddi rhybudd newydd am 'gyffuriau cyfreithlon' wedi i fachgen yn ei arddegau gael ei gludo i'r ysbyty.
Dywedodd Heddlu'r De bod y bachgen 13 oed wedi ei gludo i'r ysbyty yng Nghaerdydd ar ol iddo gymryd y cyffur King Cobra.
Daw'r rhybudd wedi i'r heddlu ddod o hyd i werth £6,000 o sylweddau seicoweithredol yn Abertawe.
Dywedodd yr heddlu bod tîm safonau masnachu'r cyngor yn ymchwilio.
'Perygl i'w hiechyd'
Dywedodd y Ditectif Uwch Arolygydd Jason Redrup: "Ar draws dde Cymru rydyn ni'n gweld cynnydd yn nifer y bobl sy'n defnyddio sylweddau seicoweithredol, yn enwedig ymysg pobl ifanc.
"Mae'n bwysig bod pobl yn gwybod bod y sylweddau yma nid yn unig yn anghyfreithlon ond hefyd yn berygl i'w hiechyd.
"Yn y rhan fwyaf o achosion ni fydd defnyddwyr yn gwybod beth yn union maen nhw'n ei gymryd."
Ynglŷn â'r darganfyddiad o sylweddau yn Abertawe, dywedodd PC Richard Williams: "Rydyn ni wedi derbyn llif cyson o wybodaeth o'r gymuned leol am y cyfeiriad yma, sydd wedi ei gysylltu â'r sylw diweddar i gyffuriau cyfreithlon, fel y cawn eu hadnabod.
"Rydyn ni wedi gweithredu ar y wybodaeth yma a drwy weithio gyda phartneriaid rydyn ni wedi tarfu ar yr achos yma."
Mae cyffuriau cyfreithlon sydd heb unrhyw reolaeth drostynt yn aml yn cael eu labelu fel "cemegau ymchwil" neu "ddim ar gyfer defnydd dynol".
Cafodd bron i 350 o sylweddau seicoweithredol newydd eu darganfod yn ol Swyddfa Cyffuriau a Throsedd yr UN.
Straeon perthnasol
- Cyhoeddwyd31 Ionawr 2014
- Cyhoeddwyd27 Tachwedd 2013