Record byd i Aled Sion Davies yn yr Eidal
- Published
image copyrightGetty Images
Mae pencampwr disgen Paralympaidd y byd Aled Sion Davies wedi gosod record byd newydd yng nghategori F42.
Wrth gystadlu yn Grosetto yn yr Eidal, torrodd y Cymro yr hen record o 47.85m gyda thafliad o 48.78m.
Cyrhaeddodd Davies yr Eidal yn hwyr nos Wener ar ol iddo fod yn rhan o daith Baton y Frenhines yng Nghymru yn gynharach yn yr wythnos.
"Mae wedi bod yn ddiwrnod hir i fi, ond dwi dal wedi llwyddo i dorri record byd," meddai.
"Dwi'n hapus iawn gyda hynny. Mae'n braf cael gwybod hyd yn oed gyda'r blinder, mae llawer mwy y gallaf wneud.
"Dwi'n edrych ymlaen at dorri 50m eleni. Dwi'n sicr y gallaf wneud. Dwi wedi gwneud wrth hyfforddi. Mater o berfformio pan mae'n cyfri' yw hi."
Straeon perthnasol
- Published
- 29 Mai 2014