Teulu'n cefnogi ymgyrch yfed a gyrru

  • Cyhoeddwyd
Josh WilliamsFfynhonnell y llun, South wales police
Disgrifiad o’r llun,
Bu farw Josh Williams ym mis Mawrth 2013

Mae Heddluoedd Cymru yn dechrau ar eu hymgyrch haf flynyddol yn erbyn yfed a gyrru ddydd Sul.

Dros y mis nesaf, bydd y pedwar llu yn cynyddu'r pwysau ar y rhai sydd yn gyrru o dan ddylanwad alcohol neu gyffuriau.

Fel rhan o'r ymgyrch, bydd heddluoedd yn cynnal profion ar ochr ffyrdd ac addysgu gyrwyr ynglŷn â'r peryglon.

Ar ddiwrnod ei lansio, mae teulu un gŵr gafodd ei ladd gan un oedd wedi yfed a gyrru wedi cefnogi'r ymgyrch.

'Dyletswydd fwyaf erchyll'

Cafodd Josh Williams, 20 o Ferthyr Tudful, ei ladd ym mis Mawrth 2013, pan oedd yn teithio mewn car oedd yn cael ei yrru gan ddyn oedd wedi yfed alcohol.

Plediodd Adam Pembridge yn euog i achosi marwolaeth a chafodd ei garcharu am bum mlynedd.

Dywedodd llystad Mr Williams, Neil Parry: "Roedd gen i'r ddyletswydd fwyaf erchyll all unrhyw riant ei gael a hynny yw adnabod eich plentyn.

"Ni ddylai unrhyw riant orfod ateb y cwestiwn yna. Bob tro rydw i'n cau fy llygaid rydw i'n ei weld o yn yr ysbyty.

'Modd osgoi'

"Mae llawer o bobl o'r farn mai 'ond i lawr y ffordd ydy o' neu 'dim ond un ddiod', ond drwy ddiffyg canolbwyntio am yr eiliad lleiaf ac rydych chi'n taro'r palmant ac yn colli rheolaeth o'r car, dyna pryd rydych chi'n sylweddoli 'dwi'n difaru cael y ddiod na'.

"Roedd modd osgoi marwolaeth Josh."

Cafodd 460 o bobl eu dal yn yfed a gyrru dros gyfnod y Nadolig, lleihad ar y ffigwr o 502 ar y flwyddyn cynt.

Dywedodd Dirprwy Uwch gwnstabl Heddlu'r De, Julian Williams: "Mae ateb syml iawn i hyn - peidiwch yfed a gyrru.

"Bob blwyddyn mae'n rhaid i'r heddlu roi'r newyddion trist i deuluoedd ar ôl i rywun gael eu lladd ar y ffordd o ganlyniad i yrru dan ddylanwad diod neu gyffuriau.

"Mae modd osgoi'r marwolaethau yma os yw gyrwyr yn cymryd y penderfyniad i beidio yfed a gyrru."

Wythnosau cyn Cwpan y Byd, dywedodd bod angen i ffrindiau a theuluoedd stopio pobl rhag yfed a gyrru.

"Peidiwch â bod ofn stopio rhywun mewn parti neu sy'n gwylio unrhyw un o gemau Cwpan y Byd rhag mynd i'w ceir os ydyn nhw wedi bod yn yfed.

"Mae hyn yn bwysig iawn yn enwedig gan fod nifer o'r gemau yn cael eu cynnal yn hwyr iawn."