Cyfeirio marwolaeth at Gomisiwn

  • Cyhoeddwyd
IPCCFfynhonnell y llun, IPCC

Mae Heddlu Dyfed Powys wedi cyfeirio achos marwolaeth menyw mewn gwrthdrawiad ger y Trallwng ar Gomisiwn Cwynion Annibynnol yr Heddlu.

Bu farw'r fenyw pan oedd y beic modur yr oedd yn ei gyrru mewn gwrthdrawiad â rhes o draffig ar ffordd yr A458 ger y Trallwng ar brynhawn Sul, 1 Mehefin.

Digwyddodd y gwrthdrawiad am tua 16:30 ar y ffordd rhwng rhwng Llanfair Caereinion a'r Trallwng.

Ychydig cyn y gwrthdrawiad roedd swyddog ar feic modur yr heddlu, oedd â lifrau arno, wrthi'n cynnal profion gwirio cerbydau yn yr ardal.

Roedd nifer o gerbydau wedi stopio mewn rhes y tu ôl i'r rhai oedd yn cael eu gwirio.

Mae ymchwiliad cychwynnol yr heddlu'n awgrymu bod beic modur y fenyw wedi taro un o'r ceir oedd yn y rhes.

Er i ambiwlans gael ei alw, bu farw'r fenyw yn y fan a'r lle. Mae ei theulu wedi cael gwybod.

Gan fod un o gerbydau'r heddlu ar y safle ar y pryd, mae Heddlu Dyfed Powys wedi cyfeirio'r mater yn wirfoddol ar Gomisiwn Cwynion Annibynnol yr Heddlu, fel sy'n arferol mewn achosion o'r fath.