Arestio staff canolfan addysg arbennig
- Cyhoeddwyd

Mae dau aelod o staff Canolfan Brynffynnon yn y Felinheli yng Ngwynedd wedi cael eu harestio yn dilyn honiadau eu bod wedi ymosod ar ddisgyblion.
Fe wnaeth Heddlu'r Gogledd gadarnhau bod y ddau aelod o staff, sy'n gweithio yn yr uned cyfeirio disgyblion, wedi cael eu rhyddhau ar fechnïaeth.
Mae ymchwiliad nawr yn cael ei gynnal i'r honiadau eu bod wedi ymosod ar fechgyn yn yr ysgol.
Canolfan sy'n darparu addysg ar gyfer disgyblion sydd â phroblemau ymddygiad, cymdeithasol ac emosiynol yw Brynffynnon.
Dywedodd y Ditectif Arolygydd Andy Gibson: "Mae dau aelod o staff wedi cael eu harestio, eu cyfweld gan yr heddlu ac maen nhw nawr ar fechnïaeth.
"Maen nhw'n parhau i fod wedi eu gwahardd o'u swyddi."
Dywedodd nad oedd yn gallu cyhoeddi mwy o wybodaeth gan fod yr ymchwiliad yn weithredol.