Diswyddo 13 swyddog heddlu am dwyllo
- Cyhoeddwyd
Mae 13 o Swyddogion Cefnogol Cymunedol yr Heddlu (PCSOs) wedi cael eu diswyddo am dwyllo mewn arholiadau.
Yn ôl Heddlu De Cymru, fe gafodd ymchwiliad ei gynnal yn dilyn honiadau bod 14 swyddog wedi twyllo yn yr arholiad olaf.
O ganlyniad, fe gafodd 13 eu diswyddo ac fe wnaeth y llall ymddiswyddo cyn bod gwrandawiad.
Dywedodd cyfarwyddwr adnoddau dynol Heddlu De Cymru, Mark Milton: "Roedd yr 14 ohonyn nhw bedwar neu bum mis i mewn i'w cyfnod prawf chwe mis pan ddaeth yr honiadau yma i'r fei, ac fe gafodd cyfnod prawf bob un ei ymestyn er mwyn galluogi i'r ymchwiliadau ddigwydd.
"Mae Heddlu De Cymru'n falch o'n safonau moesegol a'n gonestrwydd."
Pwrpas heddlu cymunedol yw cefnogi swyddogion heddlu llawn drwy wneud gwaith sydd ddim angen sylw swyddog profiadol.
Nid oes ganddyn nhw'r pŵer i arestio, i gynnal cyfweliadau gyda charcharorion nag i wneud gwaith risg uchel.