Gleision: Amddiffyniad yn dechrau

  • Cyhoeddwyd
Malcolm Fyfield

Wedi 11 wythnos mae'r erlyniad bellach wedi gorffen rhoi tystiolaeth yn yr achos yn erbyn rheolwr pwll glo'r Gleision, Malcolm Fyfield a pherchnogion y pwll MNS Mining.

Mae Mr Fyfield yn gwadu cyhuddiad o ddynladdiad wedi i Philip Hill, 44, Charles Breslin, 62, David Powell, 50, a Garry Jenkins, 39 farw yng nglofa'r Gleision ar Medi 15, 2011, ac mae MNS Mining yn gwadu cyhuddiad o ddynladdiad corfforaethol.

Wrth agor yr achos dros yr amddiffyn yn Llys y Goron Abertawe, dywedodd Elwen Evans QC wrth y rheithgor: "Mae mor hawdd i chi gyd gael eich effeithio gan emosiwn a fydden ni ddim yn ddynol fel arall, ond mae'r rhaid i'ch penderfyniad gael ei ysgogi gan y dystiolaeth fel mae'n ymddangos i chi."

Yn siarad am Mr Fyfield, dywedodd: "Roedd ganddo enw da iawn o fewn y diwydiant. Pam fyddai rhywun mor gydwybodol â hynny, oedd wedi gwneud pethau'r ffordd iawn am flynyddoedd, yn sydyn reit yn rhoi'r gorau i'r greddfau hynny?

"Dydi hynny jest ddim yn gwneud synnwyr, nac ydi?"

Mae disgwyl i Mr Fyfield gael ei alw i roi tystiolaeth yn hwyrach.

Mae'r achos yn parhau.