Damwain rheilffordd: Dyn yn ddieuog
- Cyhoeddwyd

Roedd y ddamwain rhwng y trên a thractor a threlar ar groesffordd fferm ger Y Trallwng fis Gorffennaf y llynedd
Yn Llys y Goron Yr Wyddgrug mae dyn wedi ei gael yn ddieuog o achosi damwain wedi gwrthdrawiad rhwng trên a thractor.
Fe ddigwyddodd y ddamwain ar groesffordd fferm ger Plas Buttington, i'r gogledd o'r Trallwng, ar 16 Gorffennaf, 2013.
Roedd gyrrwr y tractor, Ifan Gwyn Evans, 28, o Lanfyllin, a'i gyd ddiffynnydd, John Elwyn Roberts, 74, o'r Trallwng, wedi gwadu eu bod wedi peryglu bywydau teithwyr trwy yrru tractor a threlar ar draws y rheilffordd heb ganiatâd.
Clywodd y llys nad oedd gan yr erlyniad dystiolaeth yn erbyn Mr Evans.
Bydd achos llys Mr Roberts yn cychwyn ym mis Rhagfyr.
Roedd tua 90 o deithwyr ar y trên a chafodd dau eu hanafu.
Straeon perthnasol
- 31 Ionawr 2014