Gwaith £3.1m i wella gorsaf drenau

  • Cyhoeddwyd
Cynlluniau gorsaf AberystwythFfynhonnell y llun, Network Rail
Disgrifiad o’r llun,
Mae disgwyl i'r gwaith ar orsaf drenau Aberystwyth fod wedi'i gwblhau erbyn diwedd y flwyddyn

Mae'r gwaith wedi dechrau ar gynllun gwerth £3.1 miliwn i wella gorsaf drenau Aberystwyth.

Fe fydd muriau'r orsaf yn cael eu tacluso a chanopi yn cael ei godi.

Bydd yr orsaf ar ei newydd wedd yn cynnwys ystafell aros fwy a thoiledau newydd.

Mae'r arian yn rhan o gynllun ehangach gwerth i wella gorsafoedd trenau ledled Cymru.

Dywedodd Mark Langman, o gwmni Network Rail: "Nod y cynllun yw ailwampio'r oraf yn Aberystwyth er mwyn sicrhau gwellianau i deithwyr.

"Y gorsafoedd yw siop ffenest y rheilffordd ac rydym yn gobeithio y bydd y gwelliannau'n annog mwy o bobl i ddefnyddio trenau.

"Yn yr hir dymor fe allai gwella gorsaf Aberystwyth ysgogi mwy o waith adfywio yn yr ardal."

Ym mis Rhagfyr fe wnaeth Edwina Hart, y Gweinidog Trafnidiaeth, gyhoeddi y byddai £24 miliwn yn cael ei wario ar wella gorsafoedd Aberystwyth, Port Talbot, Y Rhyl, Pontypridd ac Ystrad Mynach.

"Mae trenau'n wasanaeth hanfodol i lawer o bobl, i fynd i'w gwaith ac i fanteisio ar amrywiol wasanaethau," meddai bryd hynny.

"Rydym am wneud ei gorsafoedd yn lleoedd sy'n rhoi profiad pleserus i deithwyr."

Fe fydd y gwaith yn Aberystwyth yn parhau tan ddiwedd 2014, ond bydd yr orsaf yn agored drwy gydol y cyfnod.

Dolenni perthnasol ar y we

Dyw'r BBC ddim yn gyfrifol am gynnwys gwefannau allanol