Teyrnged i Megan Thomas yn dilyn damwain car

  • Cyhoeddwyd
Megan Thomas
Disgrifiad o’r llun,
Roedd Megan Thomas yn 21 oed

Mae'r heddlu wedi cyhoeddi enw merch a fu farw mewn damwain yn Sir Gaerfyrddin ddydd Sadwrn.

Cafodd Megan Thomas, 21, o Lanymddyfri, ei lladd wedi gwrthdrawiad ar yr A40 rhwng Llandeilo a Nantgaredig.

Mae'r teulu wedi dweud bod ei marwolaeth wedi cael effaith fawr arnyn nhw.

Wrth roi teyrnged iddi, fe ddywedon nhw ei bod yn falch iawn ohoni.

"Roedd Megan yn falch iawn ei bod hi wedi ei derbyn i Brifysgol Buxton i orffen gradd Gweithgareddau Awyr Agored ac Addysg," meddai'r teulu.

"Byddai hyn yn ei galluogi i ddarlithio maes o law yn y maes yma, oedd o ddiddordeb iddi hi ac eraill.

"Roedd Megan yn ferch ofalgar a chariadus ac yn gweithio llawn amser fel gofalwraig gynorthwyol ar gyfer oedolion gydag anghenion arbennig - roedd yn rhywbeth roedd hi'n mwynhau gwneud.

"Mi fydd ei theulu a'i ffrindiau yn ei cholli ac rydym ni eisiau diolch i bawb sydd wedi cynnig cefnogaeth a geiriau caredig."