Cymru yn dewis tîm triathlon

  • Cyhoeddwyd
Non StanfordFfynhonnell y llun, Getty Images
Disgrifiad o’r llun,
Non Stanford oedd pencampwr y byd yn 2013

Mae Cymru wedi cynnwys dau bencampwr y byd yn y tîm triathlon ar gyfer Gemau'r Gymanwlad yn Glasgow.

Bydd Helen Jenkins a Non Stanford yn rhan o dîm o chwech fydd yn cynrychioli Tîm Cymru.

Fe wnaeth Jenkins o Ben-y-bont ar Ogwr ennill pencampwriaeth ITU y Byd yn 2011, gyda Stanford yn efelychu'r gamp yn 2013.

Hefyd wedi ei dewis yn y tîm mae Holly Lawrence, 23 oed.

Dyw Lawrence ond wedi bod yn cystadlu fel athletwraig llawn amser am fynnod byr, ond llwyddodd i greu argraff ar y dewiswyr drwy orffen yn y seithfed sale yng Nghwpan Quateria ETU yn 2014.

Y dynion sydd wedi eu dewis fel rhan o dîm Cymru yw Morgan Davies, myfyriwr 19 oed o Ben-y-bont ar Ogwr, Liam Lloyd, 20 oed, o Lanelli ac Alex Matchett, 21 oed, o Hwlffordd.

Dywedodd Chris Jenkins, prif weithredwr Cyngor Gemau'r Gymanwlad Cymru: "Mae'n ffantastig o ran Cymru i weld triathlon yn ôl fel cystadleuaeth yn y Gemau.

"Mae'n gamp lle rydym wedi cael llwyddiant a dwi'n methu ag aros i weld dau o bencampwyr y byd yn cynrychioli'r tîm yn Glasgow."