Cau ysgol: Gofyn i'r gweinidog ymyrryd

  • Cyhoeddwyd
Ysgol Llanbedr, Rhuthun
Disgrifiad o’r llun,
Bydd Ysgol Llanbedr yn Rhuthun yn cau yn bendant ar Awst 31 eleni

Mae plwy' Llanelwy wedi gofyn i'r gweinidog addysg ymyrryd mewn dadl am ddyfodol ysgol gynradd yn Sir Ddinbych.

Ym mis Mawrth eleni fe wnaeth cabinet yr awdurdod gadarnhau penderfyniad i gau Ysgol Llanbedr fel rhan o ad-drefnu addysg gynradd yn ardal Rhuthun.

Roedd yr Eglwys yng Nghymru wedi dadlau bod y galw am ysgol ffydd yn yr ardal cyn gryfed ag erioed, ac roedd llywodraethwyr a rhieni'r ysgol yn gwrthwynebu'r cau, yn ogystal â'r aelod seneddol David Jones a'r aelodau cynulliad Darren Miller ac Antoinette Sandbach.

Fe gyflwynwyd deiseb ag arni dros 1,200 o enwau yn gwrthwynebu'r cau ei chyflwyno i'r Cyngor Sir.

Mae Plwy' Llanelwy nawr wedi anfon tri llond bocs o ffeiliau gyda gwybodaeth sy'n cefnogi cadw'r ysgol, a dywedodd cyfarwyddwr gwybodaeth ac addysg gydol oes y Plwy', Rosalind Williams:

"Mae'r cyflwyniad i'r Gweinidog yn datgan yn glir pam ein bod yn teimlo bod y penderfyniad i gau yn anghywir ac rydym yn gobeithio'n fawr iawn y bydd y Gweinidog yn cydnabod hyn."

Amcan y cyngor yw trosglwyddo'r 22 disgybl llawn amser a saith rhan amser i Ysgol Borthyn yn Rhuthun o fis Medi ymlaen, ond roedd gwrthwynebwyr yn nodi bod Ysgol Llanbedr wedi derbyn 13 o geisiadau am lefydd meithrin yn yr ysgol a bod y dyfodol felly'n hyfyw.