'Gormod o gynghorau' medd Carwyn Jones
- Cyhoeddwyd

Yn y Senedd ym mae Caerdydd brynhawn Mawrth bydd y Prif Weinidog Carwyn Jones yn datgan adroddiad am raglen lywodraethu Cymru.
Mewn geiriau eraill fe fydd yn cyhoeddi asesiad o berfformiad Llywodraeth Cymru ymhob maes dros y flwyddyn ddiwethaf.
Ar Raglen Dylan Jones ar Radio Cymru fore Mawrth, bu Mr Jones yn sôn am lwyddiannau ei lywodraeth, gan gydnabod bod lle i wella mewn sawl maes.
Dywedodd hefyd ei fod yn credu bod gormod o awdurdodau lleol yng Nghymru, a bod angen diwygio strwythur llywodraeth leol.
'Gwell na gweddill y DU'
Meddai Mr Jones: "Yr hyn y'n ni'n neud yw sicrhau bod pobl yn gweld y llun onest o'r hyn s'n digwydd yng Nghymru... dyw hwn ddim yn digwydd yn Llundain a dyw e ddim yn digwydd yng Nghaeredin.
"Mae 335 o wahanol ffyrdd i fesur pa mor dda y'n ni'n neud fel llywodraeth, a bydd pobl Cymru yn gweld heddi' beth yw'r llwyddiant."
Pwysleisiodd Dylan Jones bod Llywodraeth Cymru'n rhoi'r bai ar San Steffan pan oedd pethau'n ddrwg, ond yn cymryd y clod wrth i bethau wella, ac awgrymodd wrth Carwyn Jones nad oedd hi'n bosib cael pethau'r ddwy ffordd.
"Fydden i'n dweud y gallwn ni," atebodd Mr Jones. "Pam? Achos bod Cymru'n neud yn well na gweddill y DU o achos beth y'n ni'n neud fel llywodraeth.
"Does dim system yn Lloegr, er enghraifft, lle mae miloedd o bobl ifanc wedi cael swydd ac mae lefel diweithdra yng Nghymru yn llai nag yn Lloegr.
Addysg a Iechyd
"Mae'n rhaid i ni gael mwy o gysondeb ym meysydd addysg a iechyd.
"Mae ysgolion da gyda ni, mae athrawon da gyda ni ac mae arweinwyr da gyda ni... ond does dim digon i gysondeb yn y system.
"Mae 'na rannau o'r system iechyd sydd angen eu gwella - ni'n gwybod hynny. Yr her yw bod llai a llai o arian yn dod o Lundain a mwy a mwy o alw ar y system iechyd.
"Yn amlwg mae pethau fel ambiwlansys angen eu gwella ond mae rhannau eraill lle y'n ni'n neud yn well - amser aros am driniaeth canser er enghraifft.
"Yn fy marn i mae gormod o awdurdodau lleol. Mae chwech o awdurdodau addysg yn methu ar hyn o bryd... chwech!
"Tan 2011 doedden ni'n methu neud dim am strwythur llywodraeth leol am fod y pwerau ddim gyda ni, ond mae'n rhaid neud yn siŵr bod y strwythur yn iawn."
'Ddim yn anghytuno'
Gorffennodd y sgwrs drwy ymateb i brotestiadau Cymdeithas yr Iaith am ymateb Llywodraeth Cymru i ganlyniadau Cyfrifiad 2011 am yr iaith Gymraeg.
Dywedodd Mr Jones: "Mae dau beth am 'fyd' Cymdeithas yr Iaith - yn gyntaf mae popeth yn hawdd, ac yn ail maen nhw'n dal i fod yn y 'mindset' bod yna lywodraeth yng Nghymru sydd yn erbyn y Gymraeg.
"Nid y 60au yw hi bellach.
"Does dim y maen nhw'n dweud y bydden i'n anghytuno gydag e mewn egwyddor, ond rhain i ni ffindio ffordd ymlaen sydd yn ymarferol."
Bydd y prif weinidog yn cyhoeddi canlyniadau'r asesiad o'i lywodraeth yn y Senedd oddeutu 15:00 ddydd Mawrth.