50 o swyddi i'r gogledd ddwyrain
- Cyhoeddwyd

Mae cwmni o Iwerddon yn dweud y byddan nhw'n creu 50 o swyddi newydd drwy fuddsoddi mewn ffatri newydd ym Mwcle, Sir y Fflint.
Er mai gwneud unedau gwresogi trydan yw prif faes Glen Dimplex, bydd eu ffatri newydd yn gweithgynhyrchu unedau oeri meddygol a masnachol gyda chymorth ariannol gan Lywodraeth Cymru.
Fe fydd ffatri newydd 45,000 troedfedd sgwâr yn cael ei chodi ar Lannau Dyfrdwy gan greu 50 swydd dros y flwyddyn nesaf.
Bydd y cwmni'n dechrau recriwtio ar unwaith.
'Cyfnod cyffrous'
Dywedodd y Gweinidog Busnes Edwina Hart: "Mae penderfyniad Glen Dimplex i symud i Fwcle yn newyddion ardderchog.
"Mae'n ategu'n huchelgais i ddenu cwmnïau, yn enwedig yn y sector gweithgynhyrchu a ffocws Ardal Fenter Glannau Dyfrdwy gerllaw, i fuddsoddi yng Nghymru."
Dywedodd Mark Abbott, Rheolwr Gyfarwyddwr Glen Dimplex Professional Appliances: "Yn ogystal â galluogi ni i gyfnerthu ein sylfaen gynhyrchu yn y DU, bydd yr uned newydd yma yn galluogi ni gymryd mantais o gyfleoedd busnes newydd. Mae'n gyfnod cyffrous iawn.
"Mae'r uned cynhyrchu newydd yma yn ein rhoi ni yng nghanol hwb cynhyrchu, sy'n galluogi ni i wasanaethu ein cwsmeriaid yn y DU ac ar draws y byd, ac felly gallwn nawr cynnig gwasanaeth gwell i ein cwsmeriaid.
"Rydym yn edrych ymlaen at ddechrau recriwtio yn ystod yr wythnosau nesaf."
Mae prif swyddfa Glen Dimlex yn Iwerddon, ond mae ganddyn nhw ffatrïoedd hefyd yng Ngogledd America, yr Almaen, yr Iseldiroedd, Japan, Gwlad Pwyl, Gwlad Belg, Ffrainc, China, Awstralia ac ar draws Sgandinafia.