Achos cynllwyn i lofruddio Casnewydd: Rheithgor yn ystyried
- Cyhoeddwyd

Mae'r rheithgor wedi cael eu hanfon adref dros nos yn achos pedwar dyn o Gasnewydd sy'n wynebu cyhuddiadau o gynllwynio i lofruddio.
Yn ôl yr erlyniad yn Llys y Goron Casnewydd fe wnaeth Lewis Bridge, Brogan Hooper, Gary Rabjohns a Ryan Battersby ddefnyddio car i daro yn erbyn car arall a saethu'r rhai yn y car yn fwriadol.
Mae'r pedwar yn gwadu tri chyhuddiad o gynllwynio i lofruddio a thri chyhuddiad o achosi niwed corfforol difrifol yn dilyn y digwyddiad ar Ffordd Cas-gwent fis Medi diwethaf.
Hefyd, mae Gary Rabjohns yn gwadu gweithredu er mwyn gwyrdroi cwrs cyfiawnder.
Clywodd y llys fod yr ymgais i ladd tri o bobl wedi digwydd gan fod un ohonyn nhw mewn dyled i gang o droseddwyr o Fanceinion.
Honnir hefyd bod dau o'r bobl gafodd eu saethu wedi bygwth Brogan Hooper gyda gwn rai dyddiau cyn hynny gan ddwyn arian a chyffuriau.
Gwylio ffilm
Yn ôl yr erlyniad fe wnaeth y pedwar diffynnydd ddefnyddio car gyriant pedair olwyn i daro yn erbyn card Ford KA, ac yna saethu ddwywaith tuag at ddynes a dau ddyn oedd yn y car.
Dywedodd Gary Rabjohns a Ryan Battersby eu bod yn rhywle arall adeg yr ymosodiad.
Yn ôl Mr Rabjohns roedd o yn ei dŷ, cyn mynd i barti yng Nghaerdydd. Dywedodd Mr Battersby ei fod adref gyda'i gariad yn gwylio'r ffilm Scarface.
Dywedodd Lewis Bridge ei fod o yn car ar y pryd ond nad oedd yn gwybod unrhyw beth am y gwn.
Roedd o'n credu "mae'r oll oedd yn mynd i ddigwydd oedd ymladd neu gwffio."
Dywed Brogan Hooper ei fod o yn y car ar y pryd ond nad oedd o'n ymwybodol fod yna wn yn y car, na chwaith o unrhyw gynllun i daro yn erbyn y car arall.
Mae'r diffynyddion yn gwadu'r holl gyhuddiadau yn eu herbyn.