Heddlu'r De yn helpu chwilio am Madeleine McCann
- Cyhoeddwyd

Mae dau swyddog o Heddlu'r De yn rhan o'r tîm sy'n gweithio ym Mhortiwgal ar hyn o bryd ar yr ymchwiliad i ddiflaniad Madeleine McCann.
Mae ardal yn Praia Da Luz wedi ei gau i'r cyhoedd, wrth i swyddogion a chŵn arbenigol archwilio'r safle, sydd yn dafliad carreg o'r ardal lle diflannodd y ferch dair oed saith mlynedd yn ôl.
Mae swyddogion Heddlu'r De a'r Heddlu Metropolitan wedi ymuno â'u cymheiriaid Portiwgaleg wrth chwilio rhan o brysgdir yn yr Algarve.
Mae'r safle 15 erw, wedi ei orchuddio â choed a glaswellt hir, tua phum munud o waith cerdded o'r Ocean Club lle'r oedd teulu McCann yn aros pan ddiflannodd Madeleine.
Mae swyddogion Heddlu'r De yn defnyddio cŵn synhwyro sbaniel wrth gynnal chwiliad manwl.
Disgwylir iddynt hefyd ddefnyddio offer radar sy'n medru treiddio trwy dir i chwilio am arwyddion bod y pridd wedi cael ei darfu.
Mae swyddogion o'r GNR, heddlu cenedlaethol Portiwgal, yn patrolio perimedr y safle gyda chŵn gwarchod.
Disgwylir i'r gwaith chwilio benodol yma barhau tan ddydd Gwener.
Straeon perthnasol
- Cyhoeddwyd22 Mehefin 2007