Cynllun £1.2m i adeiladu Gorsaf Reilffordd Caernarfon
- Cyhoeddwyd

Mae Rheilffordd Ffestiniog ac Ucheldir Cymru (F&WHR) wedi datgan cynlluniau gwerth £1.2miliwn i adeiladu gorsaf newydd yng Nghaernarfon gyda'r bwriad o gynyddu nifer yr ymwelwyr a chynhyrchu £25 miliwn yn ychwanegol i'r economi leol.
Yn ogystal, mae'r rheilffordd yn dweud byddai gorsaf newydd yn creu swyddi a diogelu rhai presennol yn y diwydiant twristiaeth.
Adeilad dros dro yw'r orsaf yng Nghaernarfon ers rhedeg y trên bach gyntaf o'r dref i Dinas yn 1997.
Os bydd y rheilffordd rhwng Bangor a Chaernarfon yn cael ei hail-agor yn y dyfodol, gallai gorsaf newydd fod o help i'r estyniad hwnnw.
Meddai Andrew Thomas o F&WHR : "Gydag agoriad ailddatblygiad Gorsaf Harbwr Porthmadog eleni - mae ein sylw yn troi at ddarparu gorsaf o'r ansawdd mae tref hanesyddol Caernarfon yn ei haeddu.
"Rydym wedi cynnal digwyddiadau ymgynghori cyhoeddus yn y dref yn gynharach eleni sydd wedi rhoi syniadau ac awgrymiadau gafodd eu defnyddio yn y cynllun."
Mae'r syniadau hyn yn cynnwys unedau ar gyfer siopau, unedau arlwyo a rhan ar gyfer arddangosfa - dros ddau lawr.
Ychwanegodd Mr Thomas y gallai gwaith ddechrau ar adeiladu'r orsaf erbyn diwedd y flwyddyn.
Rhan nesa'r prosiect fydd cyflwyno cais cynllunio a chwblhau cynllun costau cyn mynd ati i ddod o hyd i'r arian sydd ei angen.
Straeon perthnasol
- 11 Tachwedd 2012
- 30 Hydref 2010