BT yn prynu 50% o'i gyflenwad trydan gan ffarm wynt

  • Cyhoeddwyd
BT logoFfynhonnell y llun, BT
Disgrifiad o’r llun,
Mae'r cytundeb werth £100 miliwn dros y pymtheg mlynedd nesaf

Mae cwmni BT wedi prynu 50% o drydan ar gyfer cwsmeriaid Cymru o ffarm wynt yn Ne Cymru.

Mae'r cytundeb gyda'r cwmni a ffarm Mynydd Bwllfa ger Hirwaun werth £100 miliwn dros y pymtheg mlynedd nesaf.

Bydd gan y ffarm naw tyrbin wynt ac mae'r gwaith adeiladu wedi cychwyn yn barod.

Yn ôl BT mae'r cytundeb yn golygu y bydd nifer yn elwa.

Dywedodd Cyfarwyddwr BT Cymru, Ann Beynon eu bod nhw fel cwmni wastad yn gorfod bod yn arloesol am fod yna alw am wasanaethau digidol:

"Heblaw am ddarparu sicrwydd o ran pris hir dymor, mae'r cytundeb yma yn golygu y bydd ffarm wynt newydd yn cael ei chreu ac mae hynny yn golygu y bydd yna swyddi hir dymor a budd i'r economi leol."

Mae Ann Beynon hefyd yn dweud eu bod nhw'n credu mewn dulliau gwyrdd i gynhyrchu trydan.

Mae cyflenwr ynni adnewyddol BT, npower wedi gweithio gyda nhw ar y cynllun newydd yma ac mae'r cyfarwyddwr yn dweud eu bod nhw wedi lleihau allyriadau carbon 25.5% ar draws y byd yn 2013/14.

"Mae'r ddêl yma gyda Mynydd Bwllfa yn atgyfnerthu ein hymrwymiad i wneud cyfraniad positif i'r gymdeithas a'r amgylchedd."

Mae'r Gweinidog Adnoddau Naturiol a Bwyd, Alun Davies wedi croesawu'r cytundeb.