Araith y Frenhines: beth i'w ddisgwyl?

Parti stryd
Image caption Mae disgwyl mesur i warchod rhai sydd yn trefnu digwyddiadau lleol neu'n gwirfoddoli

Mae'r carped coch yn barod a'r tiaras wedi'u sgleinio ac un peth yn sicr, fe fydd digon o bomp a seremoni yn San Steffan wrth i'r Frenhines agor tymor Seneddol newydd.

Ac yn ganolbwynt i hynny fydd Araith y Frenhines, araith wedi'i sgwennu gan weinidogion yn amlinellu cynlluniau deddfwriaethol y llywodraeth am y flwyddyn olaf y Senedd hon.

Hon fydd yr ola' cyn Etholiad Cyffredinol 2015 ac fe fydd y llywodraeth yn awyddus i ddangos bod ganddyn nhw ddigon o syniadau ar gyfer y 10 mis nesa er gwaetha' beirniadaeth y Blaid Lafur eu bod nhw wedi rhedeg allan o stêm.

Yn ôl y Prif Weinidog, fe fydd yr araith yn adeiladu ar y gwaith sydd wedi'i wneud dros y pedair mlynedd ddiwethaf er mwyn "creu economi gref a chymdeithas decach".

Ond peidiwch â disgwyl dim byd rhy bellgyrhaeddol, mae'r angen am gytundeb rhwng dwy blaid wahanol sydd ill dwy am bwysleisio eu hunaniaeth eu hunain, yn gwneud hynny'n anodd iawn.

Siomi

Yn sicr, byddai nifer o'r aelodau Ceidwadol wrth eu boddau os yw'r Frenhines yn cyhoeddi mesur i sicrhau refferendwm ar Ewrop ond maen nhw'n siwr o gael eu siomi oherwydd gwrthwynebiad y Democratiaid Rhyddfrydol.

Felly beth yn union allwn ni ei ddisgwyl?

Mae'r Canghellor eisoes wedi cyhoeddi cynlluniau i newid y system bensiynau, gan addo mwy o reolaeth i bensiynwr dros eu harian.

Ond mae disgwyl cyhoeddiad pellach yn yr araith fyddai'n golygu bod gweithwyr yn cyfrannu at yr un gronfa bensiwn â miloedd o bobol eraill yn lle cyfrannu at gronfa ar wahân.

Dyma'r drefn yn yr Iseldiroedd ac mae'r llywodraeth yn dadlau y bydd hyn yn arwain at gostau is ac felly mwy o incwm ar eich pensiwn.

Mae disgwyl mesur fydd yn ei gwneud hi'n haws i dyllu am nwy dan dir preifat, a mesur i warchod pobl sy'n gwirfoddoli neu'n trefnu digwyddiadau lleol ac sy'n poeni am gael eu herlyn pe bai rhywbeth yn mynd o'i le.

Ar ôl cyfnod etholiadol anodd mae'r Democratiaid Rhyddfrydol yn awyddus i bwysleisio eu dylanwad nhw ar y rhaglen ddeddfwriaethol, gan hawlio clod am fesur i helpu rheini gyda'u gofal plant.

Image caption Mae'r llywodraeth eisiau newid y system bensiwn i un debyg i'r Iseldiroedd

Landlordiaid

Bydd landlordiaid tafarndai yn cael eu hamddiffyn dan gynlluniau'r Democratiaid Rhyddfrydol.

Yn ôl y Gweinidog Busnes Vince Cable mae landlordiaid sy'n gorfod prynu nwyddau gan gwmnïau tafarn mawr yn cael eu trin yn annheg ac yn ei chael hi'n anodd gwneud bywoliaeth.

Un mesur efallai na fydd yn plesio pawb yn San Steffan fydd y Mesur Ail-alw fyddai'n galluogi pleidleiswyr i gael gwared ar eu Haelod Seneddol rhwng etholiadau, os yw'n nhw'n gwneud rhywbeth mawr o'i le.

Yn ogystal â'r mesurau newydd yma, mae disgwyl cyhoeddiad y bydd Mesur Cymru, sy'n rhoi pwerau trethu a benthyca i Lywodraeth Cymru, yn parhau ar ei daith drwy'r Senedd.

Wrth gwrs, gwaith y Frenhines yw cyhoeddi'r rhaglen ddeddfwriaethol, a dw i'n siwr y bydd yna un neu ddau sypreis wrth gefn.

Ond yr hyn sy'n bwysig i'r llywodraeth yw eu bod nhw'n gallu dangos bod ganddyn nhw dal y momentwm a'r syniadau wrth ddechrau eu pumed flwyddyn mewn grym.

Straeon perthnasol