'Angen i S4C a'r BBC fod yn bartneriaid'

  • Cyhoeddwyd
Steve Hewlett
Disgrifiad o’r llun,
Mae Steve Hewlett yn newyddiadurwr a darlledwr profiadol sydd â rhaglen ar Radio 4

Mi ddylai BBC Cymru a S4C weithio'n agosach a dod yn "bartneriaid", yn ôl Steve Hewlett.

Yn siarad yn araith flynyddol Patrick Hannan, fe alwodd y darlledwr am "awdurdod Gymreig" i fwrw golwg ar wasanaethau BBC Cymru a S4C.

Dywedodd y gallai'r awdurdod gael pwerau ar benderfyniadau ariannu ar gyfer allbwn Saesneg a Chymraeg, ond y byddai'n "atebol i Ymddiriedolaeth y BBC yn y pen draw."

Ychwanegodd y gallai partneriaeth rhwng y ddau wasanaeth fod yn "briodas wedi ei gwneud yn y nefoedd".

Ei ddadl oedd y byddai'n well cael model lle'r oedd nifer o sianeli penodol ar gyfer Cymru gyda'r cynyrchiadau am Gymru yn cael eu gwneud yma.

Gan gyfeirio at y ffaith bod pennaeth BBC Cymru Rhodri Talfan Davies wedi dweud yn ddiweddar ei fod yn pryderu am ffigyrau gwylio S4C, dywedodd ei fod yn amlwg iddo fo fel "rhywun o'r tu allan" bod cyfle'n cael ei golli.

'Priodas'

Roedd yn cydnabod y ffaith y gallai hyn edrych fel bygythiad i S4C ond ei fod yn credu bod y diffyg rhaglenni cyfrwng-Saesneg am Gymru ynghyd a'r ffaith "nad oes anghytundeb rhwng y BBC a S4C dros yr iaith Gymraeg bellach" yn golygu mai cyd-weithio oedd yr ateb gorau.

Dywedodd mewn ymateb i gwestiwn o'r gynulleidfa nad oedd yn gweld plwraliaeth fel rhywbeth ieithyddol bellach a'i fod yn meddwl bod creu un sefydliad fyddai'n darparu gwahanol wasanaethau yn opsiwn.

"A allai sefyllfa godi lle bydd raid i S4C a'r BBC sefyll gyda'i gilydd a dod yn bartneriaid yng nghalon y wlad neu ydyn nhw am aros ar wahan?" gofynnodd wrth gloi'r araith.

"Yn lle bod fel cwpl od ... mi allen nhw fod yn briodas wedi ei gwneud yn y nefoedd."

Yn dilyn yr araith mi ofynnodd yr AC Dafydd Elis-Thomas - oedd yn y gynulleidfa - wrtho os oedd yn cytuno y dylai'r cyfrifoldeb dros ddarlledu gael ei ddatganoli i Gymru.

Dywedodd Mr Hewlett nad oedd yn gymwys i ateb y cwestiwn hwnnw.