Llys: rheolwr pwll y Gleision yn 'eithriadol o ofalus'
- Cyhoeddwyd

Mae rheolwr pwll y Gleision, Malcolm Fyfield, wedi dweud ei fod yn "eithriadol o ofalus" yn ei waith ac nad oedd yn rhuthro i benderfyniadau er mwyn arbed amser.
Yn Llys y Goron Abertawe dywedodd ei fod wedi penderfynu ymddeol cyn newid ei feddwl oherwydd ei fod "wedi diflasu".
Mae'n gwadu pedwar cyhuddiad o ddynladdiad wedi i David Powell, 50 oed, Charles Breslin, 62, Philip Hill, 44, a Garry Jenkins, 39, farw yn nhrychineb y Gleision ym mis Medi 2011.
Fe wnaeth y pwll lenwi gyda 650,000 tunnell o ddŵr ar ôl i lowyr ddefnyddio ffrwydradau.
Ddydd Llun, ar ôl 11 wythnos, gorffennodd tystiolaeth yr erlyniad yn erbyn Mr Fyfield a pherchnogion y pwll MNS Mining. Mae MNS Mining yn gwadu pedwar cyhuddiad o ddynladdiad corfforaethol.
Ffordd o fyw
Dywedodd Mr Fyfield ei fod wedi ymddeol yn 2008 oherwydd problemau gyda'i ysgyfaint a'i gefn.
Ond dywedodd i berchnogion y Gleision ei berswadio i ddychwelyd i'r diwydiant glo.
Ychwanegodd y dyn 58 oed, tad i ddau, fod glo yn fwy na gwaith iddo. "Roedd yn ffordd o fyw," meddai.
"Doedd fy nheulu ddim am i fi fynd yn ôl."
Clywodd y llys ei fod yn cymryd ei gyfrifoldebau fel rheolwr yn hynod ddifrifol.
"Rwyf wastad wedi bod yn hynod o ofalus, ac yn gwneud y gwaith i safon uchel oherwydd natur ddifrifol y diwydiant.
"Fyddwn i ddim yn torri corneli, doedd dim angen gwneud hynny."
Lefelau ocsigen
Dywedodd ei fod wedi penderfynu cysylltu neu uno dwy ran o'r Gleision - H1 a'r Hen Weithfeydd Canolog - oherwydd y byddai hyn yn gwella lefelau ocsigen.
Mynnodd nad oedd angen caniatâd i wneud y gwaith dan sylw oherwydd bod modd archwilio'r ddau fan.
Dywedodd Mr Fyfield iddo wneud y gwaith archwilio cyn rhoi caniatâd i ddefnyddio ffrwydron.
Roedd y rheithgor wedi clywed fod gan Mr Fyfield broblemau seicolegol "difrifol" ers y digwyddiad, gan gynnwys PTSD a theimlad o euogrwydd am iddo oroesi.
Yn ystod y gwrandawiad fe wnaeth Mr Fyfield siarad am gyfnod byr am y modd iddo ddianc o'r pwll.
Roedd yn yr ysbyty am bythefnos wedi'r ddamwain.
Mae'r achos yn parhau.
Straeon perthnasol
- 2 Mehefin 2014
- 22 Mai 2014
- 21 Mai 2014
- 21 Mai 2014
- 2 Mehefin 2014