'Mwy o bres i wario' yng Nghymru
- Cyhoeddwyd

Er bod y ffigwr wedi cynyddu yng Nghymru, mae'n parhau i fod £2,000 yn llai na chyfartaledd y DU
Pobl sy'n byw yng Nghymru welodd yr ail gynnydd mwyaf yn yr arian sydd ganddyn nhw i'w wario bob mis, yn ôl ffigyrau diweddaraf y Swyddfa Ystagedau Gwladol (ONS).
Ar gyfartaledd, roedd yr incwm sy'n weddill ar ôl talu am hanfonion (GDHI) yn £14,623 - cynnydd o 3.8%. Dim ond gogledd-ddwyrain Lloegr welodd fwy o gynnydd (4%).
Mae GDHI yn mesur faint o arian sydd gan unigolion i'w wario - yn hytrach na chartref neu deulu cyfan. Mae'r ffigyrau'n cyfeirio at ddata o 2012.
Er bod y ffigwr wedi cynyddu yng Nghymru, mae'n parhau i fod £2,000 yn llai na'r cyfartaledd ledled y DU a bron i £7,000 yn llai nag yn Llundain.