Gleision: 'Cynllun angen ei adnewyddu'

  • Cyhoeddwyd
Malcolm Fyfield
Disgrifiad o’r llun,
Mae Malcolm Fyfield yn gwadu'r holl gyhuddiadau yn ei erbyn.

Mae cyn reolwr glofa'r Gleision yn rhoi tystiolaeth ar drydydd diwrnod yr achos yn ei erbyn.

Fore Mercher, fe ddywedodd ef wrth y llys ei fod wedi bod o dan y ddaear gyda thirfesurydd ddiwrnod cyn iddo gychwyn ar ei waith fel rheolwr.

Fe ddywedodd Mr Fyfield ei fod wedi gwneud hynny gan fod y rheolwr ar y pryd - Ray Thomas - ar ei wyliau, a'i bod hi o fudd iddo gael cynllun y lofa wedi ei ddiweddaru.

"Roedd y cynllun yn hen, ac angen cael ei adnewyddu," meddai.

Ychwanegodd ei fod wedi treulio tua awr o dan y ddaear gyda'r tirfesurydd, Mr Brosnan.

Dywedodd wrth Lys y Goron Abertawe ei fod o wedi gofyn i'r tirfesurydd a oedd yr ardal y bu'r ddau yn edrych arni yn ardal Gwarchod Rhag Mewnlif.

'Ers 2005'

"Fe ddywedodd wrtha'i nad oedd o'n gwybod am unrhyw rwystr yn yr ardal.

"Dim ond ei drydydd archwiliad o oedd hwn, a'r unig gynllun oedd ar gael iddo oedd yr un ar wal y swyddfa oedd yno ers 2005."

Fe ofynodd Elwen Evans QC - yn amddiffyn - i Mr Fyfield oedd o wedi penderfynu ei fod o am barhau â'r gwaith dan y ddaear.

Fe atebodd: "Ro'n i'n newydd i'r safle. Roedd o i gyd yn wybodaeth newydd i fi. Doedd gen i ddim cynlluniau yn fy mhen."

Yna fe ofynodd Elwen Evans iddo egluro pa waith oedd yn mynd ymlaen pan gyrhaeoddodd ef.

'Nid yn amhosibl'

Fe eglurodd Mr Fyfield bod un safle yn cael ei ddefnyddio'n llawn, ond roedd carreg yn gymysg â'r glo ac felly roedd hi'n anodd, ond nid yn amhosibl i weithio yno.

"Gyda'r drilio cywir a ffrwydron, fe allech chi gyrraedd ato," meddai.

Fe ofynodd Ms Evans iddo am y safle Amber.

Meddai Mr Fyfield: "Fyddwn i ddim wedi caniatau gweithio yno, oherwydd roedd yr uchder wedi gostwng i oddeutu dwy droedfedd, ac fe fyddai hi wedi bod yn beryglus i weithio yn yr ardal.

"Fydden i ddim wedi gallu rheoli'r pwysau ar y to. Mae'n anodd iawn i'w gadw yn ei le."

Mr Fyfield yn dechrau crio

Gofynnwyd i Mr Fyfield am y map o'r lofa oedd wedi ei rwygo. Roedd o wedi gwneud braslun o'r hyn oedd o yn ystyried ei wneud dan y ddaear. Dywedodd ei fod wedi ysgrifennu'r geiriau "dŵr dan ddaear" ar y braslun am mai dyna oedd ar y cynllun.

Y prif nod meddai oedd i wella faint o aer oedd yn y pwll a dywedodd ei fod yn rheolwr oedd yn gweithio yn aml gyda'r glowyr.

Mi ddechreuodd grio wrth roi tystiolaeth ac mi orffennwyd er mwyn cael cinio yn gynt na'r disgwyl. Dywedodd Mr Fyfield wedyn ei fod wedi ymateb fel hyn ar ôl gweld y copi oedd wedi rhwygo o gynllun y lofa.

Mae Malcolm Fyfield yn gwadu'r holl gyhuddiadau yn ei erbyn, ac mae'r achos yn parhau.