Araith y Frenhines: 11 o fesurau

  • Cyhoeddwyd
Y Frenhines a Dug CaeredinFfynhonnell y llun, PA
Disgrifiad o’r llun,
Hon oedd araith ola'r Frenhines yn San Steffan cyn Etholiad Cyffredinol 2015

Mae'r Frenhines wedi amlinellu blaenoriaethau llywodraeth San Steffan ar gyfer y flwyddyn nesaf wrth iddi gyflwyno'r araith olaf cyn yr Etholiad Cyffredinol.

Mae'r 11 o fesurau sydd wedi eu cyhoeddi yn cynnwys diwygio'r system bensiynau, cynllun newydd ar gyfer rhoi cymorth ariannol tuag at ofal plant a rhoi'r hawl i bleidleiswyr alw is-etholiad os ydi Aelod Seneddol wedi gwneud rhywbeth difrifol o'i le.

Ymysg y pomp a'r seremoni yn San Steffan, cafwyd cyhoeddiad y bydd Mesur Cymru, sy'n rhoi pwerau trethu a benthyca i Lywodraeth Cymru, yn parhau ar ei daith drwy'r Senedd.

Mae ymgyrch AS Ceredigion, Mark Williams i dynhau'r gyfraith ar greulondeb i blant wedi ennill cefnogaeth llywodraeth y DU.

Yn yr araith, cyfeiriwyd at gynlluniau ar gyfer "Mesur Troseddau Difrifol i fynd i'r afael ag esgeuluso plant".

Hon oedd araith ola'r Frenhines yn San Steffan cyn Etholiad Cyffredinol 2015 ac mae'r llywodraeth yn awyddus i ddangos bod ganddyn nhw ddigon o syniadau ar gyfer y 10 mis nesa er gwaetha' beirniadaeth y Blaid Lafur eu bod nhw wedi rhedeg allan o stêm.

'Economi gref'

Yn ôl y Prif Weinidog David Cameron, mae'r araith yn adeiladu ar y gwaith sydd wedi'i wneud dros y pedair blynedd ddiwethaf er mwyn "creu economi gref a chymdeithas decach".

Roedd y Canghellor eisoes wedi cyhoeddi cynlluniau i newid y system bensiynau, gan addo mwy o reolaeth i bensiynwr dros eu harian.

Ond cafwyd cyhoeddiad pellach yn yr araith fyddai'n golygu bod gweithwyr yn cyfrannu at yr un gronfa bensiwn â miloedd o bobol eraill yn lle cyfrannu at gronfa ar wahân.

Dyma'r drefn yn yr Iseldiroedd ac mae'r llywodraeth yn dadlau y bydd hyn yn arwain at gostau is ac felly mwy o incwm ar eich pensiwn.

'Pwysleisio dylanwad'

Cyhoeddwyd mesur hefyd fydd yn ei gwneud hi'n haws i dyllu am nwy dan dir preifat, a mesur i warchod pobl sy'n gwirfoddoli neu'n trefnu digwyddiadau lleol ac sy'n poeni am gael eu herlyn pe bai rhywbeth yn mynd o'i le.

Ar ôl cyfnod etholiadol anodd mae'r Democratiaid Rhyddfrydol yn awyddus i bwysleisio eu dylanwad nhw ar y rhaglen ddeddfwriaethol, gan hawlio clod am fesur i helpu rhieni gyda'u gofal plant.

Bydd landlordiaid tafarndai yn cael eu hamddiffyn dan gynlluniau'r Democratiaid Rhyddfrydol.

Yn ôl y Gweinidog Busnes Vince Cable mae landlordiaid sy'n gorfod prynu nwyddau gan gwmnïau tafarn mawr yn cael eu trin yn annheg ac yn ei chael hi'n anodd gwneud bywoliaeth.

Dywedodd Elfyn Llwyd AS, arweinydd Plaid Cymru yn San Steffan: "Roedd hon yn bell o fod yn Araith ysbrydoledig gan lywodraeth sydd wedi rhedeg allan o stêm.

"O ystyried mai pensiynau oedd yr unig gyhoeddiad o sylwedd go iawn, mae arwyddion clir fod y Glymblaid ei hun yn barod i ymddeol".

Disgrifiad o’r llun,
Roedd Tywysog Cymru a Duges Cernyw yn bresennol