Nathan Gill, ASE Ukip wedi cyflogi gweithwyr o dramor

  • Cyhoeddwyd
Nathan Gill
Disgrifiad o’r llun,
Yn ol Mr Gill dydy Ukip ddim eisiau stopio mewnfudo yn gyfan gwbl

Mae ASE newydd Ukip wedi cadarnhau ei fod wedi cyflogi "dwsinau" o weithwyr o Ddwyrain Ewrop a'r Ffilipinau.

Roedd Nathan Gill yn gyfarwyddwr nifer o fusnesau teuluol oedd yn darparu gofal i bobl yn ardal Hull. Dyw'r cwmni ddim yn gweithredu erbyn hyn.

Mae'n dweud nad ydy hyn yn rhagrithiol ond mae'n cydnabod y "gallai edrych yn wael" am fod UKIP wedi dweud bod angen rhoi stop ar y niferoedd "anghyfyngedig" o fewnfudwyr sydd yn dod i Brydain o wledydd Ewropeaidd eraill.

Dywedodd Mr Gill: "Wnaeth Ukip erioed ddweud ei bod hi eisiau stopio mewnfudo yn gyfan gwbl. Mae eisiau lleihau'r niferoedd."

Mae pobl o wledydd eraill yn cael eu cyflogi meddai "am nad ydyn ni yn medru ffeindio gweithwyr i wneud y swyddi".

Lleihau nid atal mewnfudo

Dywedodd Mr Gill wrth bapur newydd y Western Mail:

"Mi oedd gyda ni gartref gofal ein hun. Ond mi oedd mwyafrif y gweithwyr yn cael eu cyflogi ar gytundebau gofal cartref oedd gyda ni gyda Chyngor Hull a mudiadau eraill.

"Cafodd y gweithwyr fwy o gyflog na'r cyflog isafswm ond dim llawer iawn mwy. Roedd y nifer oedden ni yn medru fforddio talu yn dibynnu ar faint o bres oedden ni yn gael gan y cyngor.

"Mae gweithio yn y system gofal yn eithaf anodd ac mi oedd staff yn mynd a dod."

Mi gadarnhaodd hefyd bod ei gwmni wedi darparu llety dros dro i bobl oedd yn dod o dramor nes eu bod nhw'n dod o hyd i lety mwy parhaol.

"Roedden ni yn gofyn am £50 yr wythnos oedd yn cynnwys trydan i bobl oedd yn ennill rhwng £200 a £300 yr wythnos."

Mae'r ASE yn dweud mai blaenoriaeth y cwmni oedd cyflogi pobl i wneud y gwaith.

"Os na fydden ni wedi cyflogi pobl o dramor, mi fydden ni wedi cael ein galw yn hiliol. Mae'r ffaith ein bod ni wedi cyflogi mewnfudwyr yn golygu ein bod ni yn cael ein cyhuddo o fod yn rhagrithiol.

"Ond dydy Ukip erioed wedi dweud ei bod hi eisiau stopio mewnfudo yn gyfan gwbl. Mae eisiau lleihau'r niferoedd."