Gleision: 'Popeth yn iawn' funudau cyn y drychineb

  • Cyhoeddwyd
emergency workers at Gleision drift mineFfynhonnell y llun, (C) British Broadcasting Corporation
Disgrifiad o’r llun,
Mi wnaeth pedwar o ddynion farw ar ôl i'r dŵr lifo mewn i'r lofa ym mis Medi 2011

Mi ddywedodd glöwr wrth ei bennaeth bod "popeth yn iawn" funudau cyn i ffrwydradau achosi i 650,000 galwyn o ddŵr lifo mewn i'r lofa gan ladd pedwar o ddynion.

Mi fuodd David Powell, 50 oed, Charles Breslin, 62, Philip Hill, 44, a Garry Jenkins, 39, farw yn nhrychineb y Gleision ym mis Medi 2011.

Mae'r cyn rheolwr Malcolm Fyfield a pherchnogion y lofa, MNS Mining Ltd yn gwadu cyhuddiadau o ddynladdiad.

Wrth roi tystiolaeth am y trydydd diwrnod mi ddywedodd Mr Fyfield beth ddigwyddodd y diwrnod hwnnw. Dywedodd ei fod wedi cyrraedd y gwaith tua 6.30 y bore ac wedi mynd lawr i'r pwll.

Dŵr o'r nenfwd

"Mi nes i weld bod mwy o lo wedi ei chwythu na ddyle fod. Mi oedd hi yn amlwg eu bod nhw wedi tanio sawl gwaith...a hynny er i fi rhoi cyfarwyddiadau ar gyfer taniadau unigol.

"Ddes i nôl i'r wyneb a dweud wrth Mr Hill 'Taniadau unigol- peidiwch â thanio sawl gwaith'. Mi oedd o'n ymddangos fel ei fod yn fodlon efo hynny."

Dywedodd wrth y llys ei fod wedi dilyn y glowyr dan ddaear a'i fod wedi siarad eto gyda Mr Hill.

"Nes i ofyn iddo fe os oedden nhw wedi gwirio popeth. Ei ymateb o oedd, 'Mae popeth yn iawn'. Mi ddywedodd e wedyn, 'Mae popeth wedi ei orffen. Mae popeth wedi ei wneud. Rydyn ni ar fin ffrwydro. Pennau i lawr. Rydyn ni'n tanio."

Mi oedd yn rhaid gohirio holi Mr Fyfield am ddeg munud am ei fod yn ymddangos yn ansefydlog ar ei draed. Pan wnaeth Elwen Evans QC ofyn iddo wedyn sut oedd o'n ymdopi ar ôl y trychineb mi ddywedodd nad oedd o wedi medru delio gyda'r hyn ddigwyddodd.

Mi bwysleisiodd eto ei fod wedi gwirio bod y lofa yn ddiogel y diwrnod cyn y cafodd y dynion eu lladd. "Doedd na ddim dŵr yna pan oeddwn i yno," meddai. Mae'n credu bod y dŵr wedi llifo i mewn o'r nenfwd ac nid o ardal ynghanol y pwll glo.

Mae'r achos yn parhau.