Achos Maddocks: Bocsiwr o Wrecsam wedi ei drywanu 50 gwaith
- Cyhoeddwyd

Cafodd dyn sydd wedi ei gyhuddo o lofruddio bocsiwr amatur ei weld gyda chyllell yn ei feddiant y diwrnod cyn y digwyddiad. Dyna glywodd llys y goron yr Wyddgrug ddydd Mawrth.
Cafodd Craig Harold Maddocks o Llai, Wrecsam ei drywanu mwy na 50 gwaith ac fe fu farw o'i anafiadau.
Clywodd y rheithgor fod Francesco John Prevete, hefyd o Wrecsam, wedi ei weld gyda chyllell yn ystod angladd ei dad. Yn ôl yr erlyniad fe aeth y ddau ddyn i'r toiledau yn y The Cambrian Vaults yn ystod oriau man Mehefin 26.
Dywedodd yr erlynydd "Unwaith roedden nhw yn y toiled cafodd y drws ei gau. O fewn munudau, mewn lle cyfyng, cafodd Mr Maddock ei drywanu i farwolaeth."
Cafwyd hyd i gyllell yn y toiled. Clywodd y rheithgor hefyd dystiolaeth gan wyddonydd fforensig yn dangos olion gwaed yn y toiled a oedd yn cyd fynd â bysedd y diffynnydd.
Roedd Mr Prevete wedi dweud mewn cyfweliadau gyda'r heddlu ei fod e a Mr Maddocks wedi mynd i'r toiled er mwyn defnyddio cocen. Fe ddywedodd iddo ddod o hyd i Mr Maddocks gyda chyllell yn ei gefn.
Yn ol yr erlyniad roedd Mr Prevete wedi siarad â Mr Maddocks am fod ganddo ddyledion ariannol i'w talu i deulu Mr Prevete a'i fod wedi colli ei dymer.
Mae Francesco John Prevete yn gwadu iddo lofruddio Craig Maddocks. Mae'r achos yn parhau.