Dau blismon yn Heddlu'r Gogledd yn destun ymchwiliad
- Cyhoeddwyd

Mae dau aelod o Heddlu'r Gogledd yn wynebu ymchwiliad oherwydd cwyn fod bachgen 15 oed wedi ei orfodi i dynnu ei ddillad cyn cael ei archwilio.
Dywedodd Comisiwn Annibynnol Cwynion yr Heddlu eu bod yn ymchwilio i'r digwyddiad yn Llandudno ddwy flynedd yn ôl.
Roedd y bachgen a phedwar llanc wedi eu hamau o gamddefnyddio cyffuriau ym Mai 2012 cyn cael eu rhyddhau.
Dywedodd y comisiwn fod y ddau swyddog wedi cael rhybudd camymddwyn a'u bod yn ymchwilio a gafodd y Ddeddf Heddlu a Thystiolaeth Droseddol ei dilyn.
Yn wreiddiol, cwynodd tad y bachgen i'r heddlu yng Ngorffennaf 2012 am nad oedd yn bresennol adeg yr archwiliad.
Pan apeliodd i'r comisiwn bu raid i'r heddlu ailymchwilio i'r cwynion.
Yn Hydref 2013 apeliodd y tad yn erbyn casgliadau'r heddlu ac yn Chwefror eleni derbyniodd y comisiwn yr apêl am yr ail dro cyn ymchwilio eu hunain ac adolygu ymchwiliadau'r heddlu.