Pennaeth bwrdd iechyd: Dim 'cynllun cudd'

  • Cyhoeddwyd
Dr Peter Higson
Disgrifiad o’r llun,
Dr Peter Higson: Dim "cynllun cudd"

Yn ôl cadeirydd Bwrdd Iechyd Betsi Cadwaladr does dim "cynllun cudd" gan y corff wrth iddyn nhw geisio gwella'r ddarpariaeth i gleifion yn y gogledd.

Yn ei gyfweliad radio cyntaf ers dechrau'r swydd dros chwe mis yn ôl dywedodd Dr Peter Higson nad oedd unrhyw fwriad i dynnu unrhyw wasanaethau craidd o'r prif ysbytai.

Ond mae o'n cyfadde', yn dilyn yr adroddiad damniol y llynedd, fod ei ragflaenwyr yn euog o fethiannau rheoli difrifol.

Ychwanegodd fod yna waith caled i wneud i adennill hyder y cyhoedd.

Hyder

Disgrifiad,

Cadeirydd Bwrdd Iechyd yn cael ei holi gan Dafydd Gwynn

Dywedodd fod y bwrdd wedi dechrau gwneud hynny ers iddo gychwyn y swydd.

"Mae hyder yn bwnc mawr. Di proffil y bwrdd ddim yn dda ar ôl beth ddigwyddodd haf diwethaf. Rhaid ail greu hyder yn beth rydym yn ei wneud."

Yn ôl Dr Higson roedd y bwrdd am fod yn fwy agored.

"Dyna pam yda ni yn siarad â phobl .... a bydd yn rhaid i'r siarad barhau trwy'r amser. Neith o gymryd rhyw flwyddyn neu ddau i ailsefydlu."

Dywedodd hefyd y byddai tri ysbyty mawr (Bangor, Bodelwyddan a Wrecsam) yn parhau yn y gogledd. Ychwanegodd fod yna lot o waith i wneud yn y flwyddyn nesaf yn enwedig yn y maes meddygon teulu.

Dolenni perthnasol ar y we

Dyw'r BBC ddim yn gyfrifol am gynnwys gwefannau allanol