Iseldiroedd 2-0 Cymru

  • Cyhoeddwyd
Netherlands forward Arjen Robben takes on the Wales defenceFfynhonnell y llun, Reuters
Disgrifiad o’r llun,
Arjen Robben yn ymosod amddiffynwyr Cymru

Er iddynt golli yn Amsterdam o ddwy gol i ddim fe wnaeth tîm Cymru heb nifer o'u prif chwaraewyr chwarae gem gystadleuol.

Ar goll o rengoedd Cymru oedd sêr fel Gareth Bale ac Aaron Ramsey.

Hon oedd gem olaf yr Iseldiroedd cyn ymadael ar gyfer Cwpan y Byd yn Brasil.

Aeth y tîm cartref ar y blaen ar ôl i ergyd Van Persie daro yn erbyn Hennessey a syrthio yn garedig i Arjen Robben (32 munud)

Robben oedd yn gyfrifol am greu ail gol yr Iseldiroedd.

Fe wnaeth yr eilydd Jeremain Lens ergydio ar ôl croesiad Robben.

Simon Church oedd yn arwain llinell Cymru, ond ychydig o'r bel welodd o yng nghyfnod cynta'r gem.

Er hynny roedd Cymru wedi llwyddo i ffrwyno'r Iseldiroedd am hanner awr, a hynny heb yr amddiffynwyr Ashley Williams, Ben Davies a James Collins.

Yn yr ail hanner daeth George Williams (Fulham) ar y cae i ennill ei gap cyntaf.

A bron iddo sgorio - fe aeth yr asgellwr heibio tri amddiffynnwr, ond i gael ei rwystro gan dacl Ron Vlaar.

Iseldiroedd: Cillessen, Janmaat, Martins Indi, N. de Jong (Huntelaar - 78' ) Vlaar de Vrij, Fer (Wijnaldum - 45' ), Sneijder, Robben, van Persie (Lens - 45' ), Blind.

Cymru: Hennessey, Gunter, Taylor (Dummett - 83' ), Allen, Chester, Gabbidon, King (Vaughan - 78' ) Ledley (Huws - 62' ), Church (Easter - 66' ), Williams (Williams - 70' ), Robson-Kanu (John - 60' ).