Dyfarniad naratif yn achos myfyriwr gafodd ei daro gan drên

  • Cyhoeddwyd

Cafodd myfyriwr ei ladd gan drên wedi iddo fynd ar hyd llwybr byrach i gyrraedd adref.

Clywodd y cwest fod William Paynter, oedd yn 18 oed, wedi mynd ar hyd llwybr trenau yng Nghaerdydd yn ystod oriau mân y bore ar ôl bod allan gyda'i ffrindiau.

Cafodd y myfyriwr cemeg ei daro gan dren oedd yn mynd 60mya a'i rhuthro i'r ysbyty gydag anafiadau difrifol i'w ben. Bedwar diwrnod wedyn mi fuodd o farw.

Rhoddodd y crwner ddyfarniad naratif yn y cwest.

Ar ôl ei farwolaeth ym mis Ionawr y llynedd mi ddaeth yr heddlu i wybod bod myfyrwyr yn defnyddio'r llwybr yn Adamsdown a bod y niferoedd yn cynyddu.

"Mae e yn dod yn fwyfwy cyffredin, yn broblem eang, "meddai Joshua Hopkins o'r heddlu.

Yn dilyn marwolaeth William Paynter, oedd yn dod o Hengoed yng Nghwm Rhymni, mi wnaeth ei hen ysgol dalu teyrnged iddo.

Mi ddywedodd Lewis School, Pengam fod y bachgen ifanc yn chwerthin yn aml ac yn medru gwneud i bobl eraill chwerthin hefyd.

"Mi fydd e wastad yn ein meddyliau."