Saethu gwraig: Diffynnydd rhy sâl i ymddangos yn y llys
- Cyhoeddwyd
Mae dyn sydd wedi ei gyhuddo o ladd ei wraig trwy ei saethu wedi bod yn rhy sâl i ymddangos yn Llys y Goron Caerdydd.
Mae Christopher Parry, 49 oed wedi ei gyhuddo o ladd ei wraig Caroline ar y stryd wrth ymyl ei thŷ yng Nghasnewydd.
Yr honiad ydy ei fod o wedyn wedi saethu ei hun. Dywedodd ei gyfreithiwr nad oedd o mewn cyflwr da a'i fod o dan effaith tawelyddion.
Roedd y cwpl wedi gwahanu cyn y digwyddiad.
Cafodd corff y fam i ddau ei ddarganfod ar stryd o dai gyda'i gŵr yn gorwedd drws nesaf iddi.
Roedd gan Mr Parry anafiadau i'w ben ac mi oedd yn rhaid i'r heddlu aros am fis cyn medru ei holi. Mae o yn cael gofal mewn ysbyty diogelu yn Y Fenni.
Mae disgwyl iddo ymddangos eto yn y llys yn ddiweddarach yn y mis.