Adolygiad Catrin Beard o'r wasg a'r blogiau Cymraeg

Cylchgronau Cymraeg
Image caption Ydy cyhoeddwyr Cymru'n methu cyfleoedd ar-lein?

Cwestiwn i godi trafodaeth sydd gan Rhodri ap Dyfrig ar wefan Ffrwti: Ydach chi'n cytuno bod cyhoeddwyr Cymru'n methu cyfleoedd ar-lein?

Ac aiff yn ei flaen i holi oes gan bob cyfrwng Cymraeg ddyletswydd i roi cynnwys ar-lein os ydyn nhw'n derbyn arian cyhoeddus.

Chwilio oedd Rhodri am ddeunydd i'w rannu a'i hyrwyddo ar Ffrwti ac, wrth wneud, sylweddoli bod cylchgrawn Barn bron yn gwbl anweledig ar-lein - er bod ganddo gyfrif Twitter, does dim byd arno ers mis Chwefror, sy'n gwneud y profiad Cymraeg ar-lein yn dlotach o lawer.

Wel, falle bod gweithwyr Barn yn rhy brysur yn rhoi'r cylchgrawn at ei gilydd i drafferthu gyda thrydar - ac mae'r rhifyn diweddaraf yn llawn yr amrywiaeth difyr arferol.

Y blaid Geidwadol yng Nghymru

Image caption Cafodd David Jones ei ddyrchafu'n Ysgrifennydd Gwladol yn 2012

Dyma droi'n syth fel arfer at golofn Richard Wyn Jones sydd y mis hwn yn trafod gwleidyddiaeth ar ffurf opera sebon, sef hanes y blaid Geidwadol yng Nghymru a'i sefyllfa ddigon rhanedig ar hyn o bryd.

Yn y blynyddoedd ers sefydlu'r Cynulliad medd Richard Wyn Jones, fe ddaeth yr haeriad mai'r Torïaid sydd wedi addasu orau i ddatganoli yn dipyn o diwn gron ymysg sylwebwyr.

Dros y blynyddoedd mae'r blaid wedi ymgymreigio'n fwriadol, gan gofleidio'r sefyllfa sydd ohoni a cheisio ei hail-greu ei hun yn blaid asgell dde Gymreig.

Ond yn ôl y colofnydd, newidiodd hyn i gyd ym mis Medi 2012 wedi i David Jones, gŵr sydd ar y gorau'n ddatganolwr anfoddog tu hwnt, gael ei ddyrchafu'n Ysgrifennydd Gwladol, ac erbyn hyn ceir gwahaniaethau syniadaethol dwfn sy'n creu rhaniadau na fydd modd eu celu, ac er mor flêr yw'r sefyllfa eisoes, megis dechrau mae trafferthion y blaid Geidwadol Gymreig.

Prinder sylw i lyfrau

Trafferthion y byd cyhoeddi yw testun Lefi Gruffudd yr wythnos hon yn y Western Mail - pawb a'i fys lle bo'i ddolur.

Mae'r prinder sylw i lyfrau yn gyffredinol yn ei boeni - oes mae 'na heip i Lyfr y Flwyddyn, ond y tu hwnt i hynny mae'n eithaf tenau.

Ond yr hyn sy'n ei gnoi go iawn yw'r diffyg cefnogaeth i awduron llyfrau gwreiddiol i blant yn y Gymraeg, gyda'r mwyafrif llethol o lyfrau sy'n cael eu cyhoeddi'n addasiadau o ieithoedd eraill.

Dychmygwch, meddai, petai rhan fwyaf o'r caneuon Cymraeg ar Radio Cymru yn addasiadau o ganeuon sioeau cerdd Saesneg.

Allwch chi fod yn eitha' siŵr y bydden ni mewn streic ar ein pennau gyda chwyno di ben draw am yr holl arian sy'n diflannu o'r diwydiant i berchnogion hawliau y tu hwnt i'r ffin.

Fydden nhw'n cadw Taro'r Post i fynd am wythnosau.

Eisteddfod yr Urdd ddwyieithog?

Image caption Radio Wales: yr hawl i ofyn cwestiynau nad ydym ni o reidrwydd yn eu hoffi

Rhaglen drafod Radio Wales sydd wedi cynddeiriogi nifer o Gymry - unwaith eto - drwy holi a ddylai Eisteddfod yr Urdd fod yn ddwyieithog, ac mae hyn wedi peri cryn ddiflastod i Cris Dafis yn Golwg.

Nid y cwestiwn, ond yr ymateb.

Yn ôl Cris, mae'n gwestiwn digon rhesymol, nad yw'n dwp, yn sarhaus nac yn tanseilio'r iaith fel mae nifer wedi'i honni.

Yr hyn sy'n sarhaus ac yn anghyfrifol yw haeriad rhai ohonon ni'r Cymry Cymraeg nad oes gan Radio Wales hawl i ofyn cwestiynau y mae ei gwrandawyr hefyd yn eu holi, cwestiynau nad ydym ni o reidrwydd yn eu hoffi.

Ac mae'n gorffen ei lith â chelpan go gryf - pe bai'r Cymry hynny oedd yn poeni cymaint am eiriad y cwestiwn wedi defnyddio'u hegni i gyfrannu at y drafodaeth ac esbonio'n gall pam na ddylai Eisteddfod yr Urdd fod yn ddwyieithog, yn hytrach na chyfansoddi negeseuon pwdlyd ar Facebook a Twitter, byddai gwell siâp o lawer ar y genedl fach ddwyieithog hon.

Mae adolygiad Catrin Beard o'r wasg a'r blogiau Cymraeg yn cael ei ddarlledu bob bore Gwener ar y Post Cyntaf ar BBC Radio Cymru ychydig cyn saith o'r gloch.

Straeon perthnasol