Cwest gwyddonydd: 'ofni colli swydd'
- Cyhoeddwyd

Fe wnaeth gwyddonydd ym Mhrifysgol Caerdydd ladd ei hun am ei fod yn poeni y byddai'n colli ei swydd.
Clywodd y cwest fod ymchwiliad iechyd a diogelwch yn mynd i gael ei gynnal wedi damwain labordy.
Roedd Dr Mark Jervis, 62 oed, yn teimlo o dan bwysau, ar ôl i fyfyriwr PhD gael asid ar ei wyneb yn ystod damwain yn ei labordy yn y brifysgol.
Roedd wedi cael gwybod y gallai ymchwiliad iechyd a diogelwch "fynd yr holl ffordd" i ymchwilio a gafodd ffurflen asesu risg ei llofnodi'n briodol.
Cafodd corff Dr Jervis oedd yn uwch-ddarlithydd ym Mhrifysgol Caerdydd ei ffeindio yn ei swyddfa ar Fawrth 11.
Roedd yn arbenigwr blaenllaw ar gylch bywyd pryfed.
"Meddyliau du"
Dywedodd ei wraig wrth y cwest bod Dr Jervis, tad i ddau, eisoes yn dioddef straen difrifol oherwydd llwyth gwaith cynyddol drwm a bod y ddamwain labordy wedi ei wthio dros y dibyn.
Yn ôl ei wraig Julia, "Roedd Mark yn hynod bryderus ac yn argyhoeddedig y byddai'n cael ei ddiswyddo am gamymddwyn difrifol yn dilyn y ddamwain.
"Roedd yn poeni am y cywilydd y byddai hyn yn achosi i'r teulu. Dywedodd bod hyn wedi ei arwain at feddyliau du.
"Cadarnhaodd i mi ei fod wedi cynnal ymchwil ar-lein ynghylch hunanladdiad ond ei fod yn ormod o lwfrgi i weithredu.
"Yn ei arfarniad gwaith diweddaraf cytunwyd y byddai ymdrechion yn cael eu gwneud i leihau ei lwyth gwaith ond digwyddodd y gwrthwyneb".
Hanes o iselder
Daeth ymchwiliad y brifysgol i'r casgliad nad oedd Dr Jervis ar fai am y "fân ddamwain" ond parhaodd i boeni am ei swydd.
Clywodd y cwest yng Nghaerdydd na fyddai Dr Jervis yn gallu cadw ei ddau fab mewn prifysgol pe byddai'n colli ei swydd. Roedd gan Dr Jervis hefyd hanes o ddioddef o straen, cwsg gwael ac iselder.
Dywedodd y crwner Thomas Atherton: "Nid oes gennyf unrhyw amheuaeth bod ganddo lwyth gwaith trwm yn y brifysgol ac roedd hyn yn rhan amlwg o'i bryderon a'i straen eleni.
"Rwyf yn fodlon ei fod yn wirioneddol gredu y byddai'r ddamwain labordy yn arwain at golli ei swydd ac achosi anhawster ariannol personol.
"Ond mae'n ymddangos fod ei ymateb wedi bod yn anghymesur".