Diffoddwyr: Streic hiraf hyd yma

  • Cyhoeddwyd
Undeb y Frigâd Dân
Disgrifiad o’r llun,
Roedd aelodau o Undeb y Frigâd Dân yn rhan o orymdaith Cyngor Undebau Llafur Caerdydd ddechrau Mai

Mae Undeb y Frigâd Dân (FBU) wedi cyhoeddi y bydd eu haelodau yn cynnal streic 24 awr, yr hiraf eto yn eu hymgyrch.

Bydd y diffoddwyr yn streicio o 9am ar Ddydd Iau 12 Mehefin, gydag un arall rhwng 10am-5pm ar ddydd Sadwrn 21 Mehefin.

Mae'r gweithredu'n rhan o anghydfod am gynlluniau llywodraeth y DU i godi oed ymddeol diffoddwyr o 55 i 60, a chynyddu eu cyfraniadau pensiwn.

Anghydfod

Mae Undeb y Frigâd Dân (FBU) wedi cynnal cyfres o streiciau byr ar draws Cymru a Lloegr ers mis Medi.

Roedd y cyntaf ar ddydd Iau 24 Medi 2013.

Mae'r undeb yn dweud y dylai diffoddwyr gael ymddeol yn gynt na gweithwyr eraill oherwydd natur gorfforol y gwaith. Maen nhw hefyd yn poeni y bydd gweithwyr yn eu 50au yn colli eu gwaith am na fyddan nhw'n pasio'r prawf ffitrwydd.

'Bargen hael'

Mae'r Adran Gymunedau a Llywodraeth Leol yn dweud bod y streiciau yn "ddiangen ac yn difrodi perthynas y diffoddwyr gyda'r cyhoedd".

Yn ôl yr Adran: "Mae'r fargen yn un o'r cynlluniau pensiwn fwyaf hael o fewn y sector gyhoeddus...

"Bydd bron i dri chwarter yn gweld dim cynnydd i'w oed pensiwn yn 2015.

"O dan y cynllun newydd bydd diffoddwr sy'n ennill £29,000 yn parhau i allu ymddeol wedi gyrfa lawn yn 60, gyda phensiwn o £19,000 y flwyddyn, sy'n codi i £26,000 gyda phensiwn y wladwriaeth.

"Byddai pot pensiwn cyfatebol yn y sector breifat werth dros hanner miliwn o bunnoedd a byddai raid i ddiffoddwyr gyfrannu ddwywaith cymaint."