Achos cynllwyn i lofruddio: Pedwar yn euog

  • Cyhoeddwyd
L-R: Gary Rabjohns, Ryan Battersby, Brogan Hooper, Lewis BridgeFfynhonnell y llun, Gwent Police
Disgrifiad o’r llun,
Euog: Gary Rabjohns, Ryan Battersby, Brogan Hooper, Lewis Bridge

Mae pedwar dyn o Gasnewydd wedi eu cael yn euog yn Llys y Goron y ddinas o gynllwynio i lofruddio.

Fe wnaeth Lewis Bridge, Brogan Hooper, Gary Rabjohns a Ryan Battersby ddefnyddio car i daro yn erbyn car arall a saethu'r rhai yn y car yn fwriadol.

Digwyddodd hyn ar Ffordd Cas-gwent fis Medi diwethaf.

Ddydd Iau, cafwyd pob un o'r pedwar yn euog o ddau gyhuddiad o gynllwynio i lofruddio.

Clywodd y llys fod y cynllwyn i ladd wedi digwydd gan fod un ohonyn nhw mewn dyled i gang o droseddwyr o Fanceinion.

Gwylio ffilm

Yn ôl yr erlyniad fe wnaeth y pedwar diffynnydd ddefnyddio cerbyd i yrru Ford KA oddi ar yr hewl, ac yna saethu ddwywaith tuag at ddynes a dau ddyn oedd yn y car.

Dywedodd Gary Rabjohns a Ryan Battersby eu bod yn rhywle arall adeg yr ymosodiad.

Yn ôl Mr Rabjohns roedd o yn ei dŷ, cyn mynd i barti yng Nghaerdydd. Dywedodd Mr Battersby ei fod adref gyda'i gariad yn gwylio'r ffilm Scarface.

Dywedodd Lewis Bridge ei fod yn car ar y pryd ond nad oedd yn gwybod unrhyw beth am y gwn.

Roedd e'n credu "mae'r oll oedd yn mynd i ddigwydd oedd ymladd neu gwffio".

Dywed Brogan Hooper ei fod yn y car ar y pryd ond nad oedd yn ymwybodol fod yna wn yn y car, na chwaith o unrhyw gynllun i daro yn erbyn y car arall.

Dywedodd llefarydd ar ran Heddlu Gwent ar ôl y dyfarniad: "Mae'r math hwn o ddigwyddiad yn hynod brin yng Ngwent, ond pan fyddant yn digwydd rydyn ni'n cymryd camau cadarn ar unwaith i sicrhau diogelwch y trigolion lleol a dod o hyd i'r rhai sy'n gyfrifol i ddod â nhw gerbron y llysoedd."

Bydd Bridge, Hooper, Rabjohns a Battersby yn cael eu dedfrydu ar Fehefin 30.