Cwis Datganoli - Rhan 2

  • Cyhoeddwyd
Cynulliad

Faint o hwyl gawsoch chi ar ran gynta'r cwis? Mae yna 15 mlynedd ers sefydlu'r Cynulliad ac mae hi'n amhosib cofio'r prif ddigwyddiadau i gyd. Efallai y bydd y cwestiynau canlynol am bersonoliaethau'n procio'r cof.

1. Pwy gyhoeddodd yn 2000 fod "cytundeb dros dro"?

a. Ieuan Wyn Jones a Rhodri Morgan

b. Rhodri Morgan a Mike German

c. Tony Blair a Rhodri Morgan

2.Pwy ddywedodd fod "cenedl wedi ei geni mewn maes parcio tanddaearol" wrth gyfeirio at Dŷ Crughywel?

a. Leo Abse AS

b. Western Mail

c. Terry Hands, y cyfarwyddwr theatr

Disgrifiad o’r llun,
Maes parcio tanddaearol?

3.Pwy oedd y pensaer enillodd gomisiwn ar gyfer adeilad newydd y Cynulliad cyn colli'r prosiect?

a. Richard Rogers

b. Zaha Hadid

c. Pierre Fakhoury

4. Pwy ddywedodd: "Y gwir yw bod y Cynulliad yn golygu bod bywyd cyhoeddus yng Nghymru wedi troi bron dros nos yn opera sebon"?

a. Patrick Hannan

b. Daily Telegraph

c. A A Gill

5. Pwy na chafodd ei benodi'n Weinidog yn Llywodraeth San Steffan ym Mai 1997?

a. Alun Michael

b. Rhodri Morgan

c. Ron Davies

Disgrifiad o’r llun,
Y Prif Weinidog presennol, Carwyn Jones

6. Pwy gafodd ei gyflwyno ar raglen deledu Newsnight fel "rhywun nad oedd yn enw cyfarwydd hyd yn oed yn ei deulu ei hun"?

a. Wayne David

b. Alun Michael

c. Jon Owen Jones

7. Pwy oedd â 60,000 o aelodau ond a ddywedodd na allai ei undeb fforddio pleidlais pan oedd Rhodri Morgan yn herio Alun Michael?

a. George Wright

b. Terry Thomas

c. David Jenkins

8. Pwy alwodd ei olynydd yn "brat llwyr"?

a. Mike German

b. Rod Richards

c. Ken Hopkins

Ffynhonnell y llun, Getty Images
Disgrifiad o’r llun,
Y Frenhines yn agor y pedwerydd Cynulliad yn 2011

9. Pwy gyfeiriodd at "ganu achlysurol a chyfansoddi" yn y gofrestr buddiannau?

a. Carwyn Jones

b. Dai Lloyd

c. Elin Jones

10. Pwy oedd yr Ysgrifennydd Cyntaf?

a. Ron Davies

b. Alun Michael

c. Carwyn Jones

ATEBION

1. b.

2. c.

3. b.

4. a.

5. b.

6. b.

7. a.

8. b.

9. c.

10. b