Carcharu wyth am droseddau cyffuriau
- Cyhoeddwyd

Carcharwyd aelodau o gang oedd yn tyfu cyffuriau am rhwng dwy a 10 mlynedd ar ôl i'r heddlu ddod o hyd i 7,500 o blanhigion canabis gwerth tua £3.5 miliwn.
Dedfrydwyd saith o ddynion ac un fenyw yn Llys y Goron Caerdydd.
Plediodd chwech ohonynt yn euog ac fe gafwyd y ddau arall yn euog o gynllwynio i gynhyrchu cyffuriau.
Roedd 130 o swyddogion o dri gwasanaeth heddlu gwahanol wedi cymryd rhan mewn cyrchoedd ar draws de Cymru a gorllewin Lloegr, gan gynnwys rhai yng Nghaerdydd, Casnewydd, Bryste a Chaerfaddon.
Bu'r heddlu yn ymchwilio am ddwy flynedd a hanner.
Planhigion gwerth £3.5miliwn
Yn gyfan gwbl, daeth plismyn o hyd i 7,500 o blanhigion canabis gwerth tua £3.5 miliwn, tua £25,000 mewn arian parod, a char Bentley.
Meddai'r ditectif uwch-arolygydd Dorian Lloyd, o Heddlu De Cymru: "Mae llwyddiant yr ymchwiliad hwn yn ganlyniad uniongyrchol o Heddlu De Cymru yn gweithio gyda'n cymunedau i dargedu troseddwyr o'r fath."