Pam dyw pobl ddim eisiau bod yn AC?
- Cyhoeddwyd

Be' sy'n atal pobl gyda'r ymrwymiad a'r gallu rhag sefyll i fod yn Aelodau Cynulliad?
Pan gafodd y sefydliad ei greu yn dilyn refferendwm 1997, dywedodd Ron Davies ei fod eisiau gweld y "gorau a'r mwyaf disglair" yn cael eu hethol.
Ond mae'r rhan fwyaf o ohebwyr gwleidyddol yn gytun fod hyn heb ddigwydd.
Mi fydd ymchwiliwr o Brifysgol Bangor nawr yn ceisio darganfod pam.
Gwraidd y broblem?
Mae'r Coleg Busnes, y Gyfraith, Addysg a Gwyddorau Cymdeithas wedi ennill cytundeb gan y Cynulliad er mwyn ceisio mynd at wraidd y broblem.
Fel rhan o'r gwaith mi fyddan nhw'n cyfweld ag aelodau presennol, cyn aelodau, darpar ymgeiswyr, aelodau annibynnol a swyddogion y pleidiau.
Yn ol Athro Phil Molyneux, Deon y coleg, mi fydd y gwaith yn ceisio "sicrhau nad oes unrhyw rwystrau diangen yn parhau i fodoli a fyddai'n rhwystro ymgeiswyr (sy'n gymwys fel arall) rhag caniatáu i'w henwau gael eu cyflwyno i'w hethol i'n Cynulliad Cenedlaethol".
"Mewn cymdeithas ddemocrataidd fel hon a gynhelir ar hyd llinellau seneddol, mae'n hanfodol bod pob sector yn y gymdeithas yn teimlo y gallant gael eu hethol i'r Cynulliad Cenedlaethol, a pheidio â theimlo eu bod yn cael eu cau'n annheg o'r broses etholiadol.
"Felly rydym yn croesawu'r ffaith ein bod fel prifysgol wedi cael ein dewis i wneud y project ymchwil pwysig hwn ar ran y Bwrdd Taliadau."
Dywedodd Sandy Blair, Cadeirydd y Bwrdd Taliadau Annibynnol bod yr ymchwil yn "rhan bwysig o'n gwaith i sicrhau nad yw'r cyflogau a'r gefnogaeth sydd ar gael i aelodau o'r Cynulliad yn yr etholiad nesaf yn atal pobl sydd â'r gallu a'r diddordeb yn nyfodol Cymru rhag sefyll".
"Bydd hefyd yn amlygu unrhyw ffactorau eraill - tu hwnt i'n cylch gorchwyl - sy'n gwneud pobl yn amharod i gyflwyno eu henwau."
Straeon perthnasol
- Cyhoeddwyd11 Mawrth 2014
- Cyhoeddwyd20 Ionawr 2014