Cymru dan 20 21-35 Iwerddon dan 20

Cymru dan 20 Image copyright Simon Watts
Image caption Colli wnaeth tîm dan 20 Cymru yn erbyn Iwerddon

Mae tîm rygbi dan 20 Cymru wedi colli eu hail gêm ym Mhencampwriaeth Ieuenctid y Byd yn erbyn Iwerddon.

Iwerddon ddechreuodd gryfaf gan sgorio dau gais o fewn 15 munud gan Rory Burke a Garry Ringrose, gyda'r maswr Ross Byrne yn adio'r pwyntiau ychwanegol.

Daeth Cymru yn ôl yn gryfach yn fuan wedyn, wrth iddyn nhw dorri i mewn i hanner Iwerddon sawl gwaith.

Daeth y cais cyntaf ar ôl 21 munud, wrth i'r mewnwr Luc Jones fwydo'r bêl i'r asgellwr Tyler Morgan groesi'r llinell ar yr ochr dywyll. Ciciodd Angus O'Brien y pwyntiau ychwanegol.

Ar ôl cic gosb gan Byrne, dechreuodd blaenwyr Cymru reoli'r sgrym ac ar ôl nifer o giciau cosb, rhoddodd y dyfarnwr gais cosb i Gymru a cherdyn melyn i brop Iwerddon, Peter Dooley. Iwerddon oedd ar y blaen o 17-14 yn yr egwyl.

Munud i fewn i'r ail hanner roedd Iwerddon i lawr i 13 chwaraewr, wrth i Alex Wooton gael ei yrru i'r gell gosb am daro ei ben-glin i gefn O'Brien ar y llawr.

Doedd 15 dyn Cymru methu a manteisio ar rediad Will Boyde ond penderfynodd Cymru i fynd am y sgrym o gic cosb ar ôl i Iwerddon atal y bêl ar y llawr, a llwyddodd yr wythwr James Benjamin i reoli'r sgrym a sgorio'r cais.

Ond doedd Iwerddon ddim am roi'r gorau iddi, a sgoriodd Garry Ringrose ar ôl i eilydd Cymru Tom Williams fethu a chicio i'r ystlys.

Sgoriodd Byrne y trosiad a chic gosb arall i roi mantais o chwe phwynt i'r Gwyddelod.

Wrth i'r gêm symud i'w chwarter olaf, daeth trydydd cerdyn melyn y gêm i Jack Dixon am dacl beryglus.

Methodd Byrne y gic cosb, ond sgoriodd un arall yn fuan wedyn a sgoriodd Cian Kelleher gais ychwanegol pedwar munud o'r diwedd.

Cymru dan 20: Ashley Evans (Gweilch); Tyler Morgan (Dreigiau), Steffan Hughes (capt, Scarlets), Jack Dixon (Dreigiau), Joshua Adams (Scarlets); Angus O'Brien (Dreigiau), Luc Jones (Dreigiau); Nicky Smith (Gweilch), Elliot Dee (Dreigiau), Nicky Thomas (Gweilch), Joe Davies (Dreigiau), Rory Thornton (Gweilch), Olly Cracknell (RGC), James Benjamin (Dreigiau), Will Boyde (Caerfyrddin).

Eilyddion: Scott Otten (Gweilch), Luke Garrett (Dreigiau), Callum Lewis (Gleision), Scott Andrews (Dreigiau), Scott Matthews (Dreigiau), Tom Williams (Gleision), Ethan Davies (Dreigiau), Afon Bagshaw (RGC).

Iwerddon dan 20: Cian Kelleher; Ciaran Gaffney, Garry Ringrose, Dan Goggin, Alex Wootton; Ross Byrne, Nick McCarthy; Peter Dooley, Max Abbott, Rory Burke, Darragh Moloney, Ross Molony, Peadar Timmins, Jack O'Donoghue (capt), Frank Taggart.

Eilyddion: Denis Coulson; Oisin Heffernan, Josh Murphy, Diarmaid Dee, Ryan Foley, Conor McKeon, Harrison Brewer.