Cynllun coedwig i gofio'r Rhyfel Mawr

  • Cyhoeddwyd
CoedwigFfynhonnell y llun, Coed Cadw
Disgrifiad o’r llun,
Bydd y goedwig yn 'frodwaith o goed a dolydd blodau gwyllt'

Mae ymddiriedolaeth Coed Cadw wedi datgelu cynllun i greu coedwig arbennig i gofio canrif ers dechrau'r Rhyfel Mawr.

Maen nhw eisoes wedi clustnodi llain o dir 120 erw ger Carwe yng Nghwm Gwendraeth ar gyfer y goedwig.

Bydd y goedwig yn un o bedair - un yr un ym mhedair gwlad y DU - i gofio dechrau'r Rhyfel Byd Cyntaf.

Ond er mwyn bwrw mlaen â'r cynllun mae'r mudiad angen codi o leia' hanner miliwn o bunnau erbyn diwedd mis Awst cyn y gallan nhw'n ymrwymo i brynu'r tir gan wybod bod y cynllun yn un hyfyw.

Cost llawn y cynllun fydd oddeutu £1.2 miliwn.

Rôl y gymuned

Os fydd y cynllun yn digwydd, y bwriad yw plannu 90,000 o goed brodorol ar y safle gan greu brodwaith o goed a dolydd o flodau gwyllt gan gynnwys Pabi Fflandrys.

Bydd 'ardal gofio' yn y goedwig a fydd yn coffau pawb fu'n gwasanaethu yn y Rhyfel Byd Cyntaf, ac fe fydd mynediad a gwasanaeth dehongli ar gael i bawb.

Mae Coed Cadw yn awyddus i'r gymuned leol fod yn rhan o gynllunio'r goedwig, a bydd cyfle i bobl leol a phlant o ysgolion yr ardal i blannu rhai o'r coed eu hunain.

Dywedodd Jerry Langford, cyfarwyddwr Coed Cadw: "Bydd 90,000 o goed brodorol yn sefyll yn gadarn fel teyrnged i genhedlaeth canrif yn ôl fel cofeb barhaol i bawb fu'n rhan o'r Rhyfel Byd Cyntaf.

"Os fydd ein hymgyrch godi arian yn llwyddiannus, bydd y coed fydd yn cael eu plannu fel rhan o'r cynllun yma yn cryfhau'r tirlun naturiol.

"Ymhen blynyddoedd efallai y byddwch yn ddigon ffodus i weld pili-palaod yn gwibio drwy'r coed yma neu weld ystlum wrth iddi nosi yn dechrau hela. Dyma un o'r cynlluniau mwyaf uchelgeisiol i Coed Cadw ymgymryd ag ef erioed, ac rydym yn gobeithio creu cofeb byw fydd yn sefyll am genedlaethau i ddod."

Bydd pobl sy'n byw ger y safle yn cael gwahoddiad i gyfarfod arbennig i lansio'r prosiect ar ddydd Sul, 22 Mehefin am 14:00 yng nghwrs rasio Ffos Las pan fydd cyfle i gwrdd â thîm y cynllun.