Pasport: Gwasanaeth 'annerbyniol'
- Published
Mae Aelod Seneddol o Gymru wedi galw ar y llywodraeth i gymryd camau brys i ddelio â chwynion ynglŷn â'r gwasanaeth pasport.
Yn ôl David Hanson, llefarydd Llafur ar fewnfudiad, mae Aelodau Seneddol wedi delio â nifer fawr o gwynion yn ddiweddar ynglŷn ag oedi gormodol.
"Mae angen i'r llywodraeth afael yn y sefyllfa ar unwaith" meddai.
Mae'r gwasanaeth pasport yn gwadu'r honiadau gan ddweud eu bod yn cwrdd â'u targedau.
Ymhlith y teuluoedd i gael trafferthion mae Phil a Claire White o Benarth. Maen nhw'n aros i adael Qatar ar ôl cyfnod yn gweithio yno.
Ar ôl genedigaeth eu mab, mae'r awdurdodau wedi eu rhybuddio y gallai gymryd wyth wythnos cyn i'w cais am basport newydd gael ei dderbyn. Dywedodd Mr White: "Mae'r sefyllfa yn anobeithiol".
Yn ôl Aelod Seneddol Delyn, David Hanson, mae ganddo dystiolaeth o 370 o gwynion sydd wedi dod i sylw 75 o Aelodau Seneddol Llafur.
"Mewn 22 mlynedd o fod yn Aelod Seneddol 'dw i erioed wedi gweld cymaint o bobl yn cysylltu â mi gyda phroblemau. 'Dyw staff y swyddfa basport ddim yn cael cefnogaeth gan y llywodraeth ac mae'r annerbyniol."
Mae'r gwasanaeth pasport yn hawlio nad oes problem. Dywedodd llefarydd: "Mae'n gyfnod prysur oherwydd dechrau tymor yr haf. Oherwydd gwelliant yng nghyflwr yr economi mae mwy o alw.
"'Does dim tagfa yn y system, ac mae 99% o geisiadau arferol yn cael eu prosesu o fewn pedair wythnos."