Lydiate yn gapten yn erbyn y Kings

  • Cyhoeddwyd
Lydiate
Disgrifiad o’r llun,
Lydiate oedd Chwaraewr y Twrnamaint yng nghystadleuaeth y Chwe Gwlad yn 2012

Dan Lydiate fydd capten Cymru ar gyfer gem agoriadol eu taith i Dde Affrica yn erbyn yr Eastern Province Kings.

Mae'n debyg bod Gatland wedi penderfynu ei fod angen yr ymarfer wedi bod i ffwrdd gydag anaf i linyn y gar.

Alex Cuthbert yw'r unig un arall i chwarae yn Port Elizabeth ddydd Mawrth sydd hefyd yn debygol o ddechrau'r gêm brawf gyntaf.

Mi fydd tri cefnwr yn derbyn eu capiau cyntaf - Matthew Morgan, Steven Shingler a Jordan Williams.

Cafodd Rhodri Williams ei ddewis o flaen ei gyd Scarlet Gareth Davies, a bydd yn chwarae gyda James Hook yn safle'r hanerwr.

Mae'r cyn gapten Matthew Rees ar y fainc, ac os bydd yn cael ei ddewis i ddod ar y cae hynny fyddai ei gêm gyntaf yn ôl i Gymru ers cael triniaeth am ganser.

Tîm fydd yn dechrau: Matthew Morgan (Gweilch), Alex Cuthbert (Gleision), Cory Allen (Gleision), Steven Shingler (Scarlets), Jordan Williams (Scarlets), James Hook (Perpignan), Rhodri Williams (Scarlets), Paul James (Bath), Scott Baldwin (Gweilch), Rhodri Jones (Scarlets), Jake Ball (Scarlets), Ian Evans (Gweilch), Dan Lydiate (Capten) (Racing Metro), Josh Turnbull (Scarlets), Dan Baker (Gweilch).

Eilyddion: Matthew Rees (Gleision), Aaron Jarvis (Gweilch), Samson Lee (Scarlets), Luke Charteris (Perpignan), Aaron Shingler (Scarlets), Gareth Davies (Scarlets), George North (Northampton Saints), Liam Williams (Scarlets).