Dau wedi marw ar y ffordd yn Gilfach Coch
- Published
Mae dau o bobl wedi marw yn dilyn gwrthdrawiad yn y Rhondda ddydd Sadwrn.
Mae'r heddlu wedi arestio dyn 20 oed ar amheuaeth o achosi marwolaeth drwy yrru yn beryglus.
Un car yn unig oedd yn y ddamwain a ddigwyddodd ar yr A4093 yn Gilfach Goch.
Yn ôl yr heddlu roedd y BMW yn cael ei yrru o ardal Hendreforgan tuag at ardal Tonyrefail pan adawodd y ffordd.
Mae ymchwiliad yr heddlu'n parhau ac maen nhw'n apelio am i dystion gysylltu â nhw.
Dywedodd Heddlu De Cymru bod teulu'r ddau o bobl fu farw wedi cael gwybod a'u bod yn derbyn cefnogaeth gan swyddogion arbenigol.