Anaf difrifol wedi damwain ger y Bont-faen
- Cyhoeddwyd
Mae beiciwr modur wedi dioddef anafiadau difrifol yn dilyn gwrthdrawiad â char ym Mro Morgannwg.
Fe gafodd yr unigol yn y car anafiadau mân yn dilyn y ddamwain ar ffordd osgoi'r Bont-faen ar yr A48 am 12:30 ddydd Sul.
Dywedodd Heddlu De Cymru y byddai'r ffordd ynghau am gyfnod wrth i swyddogion gynnal ymchwiliad.
Maen nhw'n awyddus i unrhyw un a welodd y digwyddiad gysylltu â nhw ar 101.