Glaw yn atal gêm T20 Morgannwg
- Cyhoeddwyd

Mae gêm T20 Morganwg wedi cael ei chanslo oherwydd glaw ym Mryste.
Fe lwyddodd Swydd Caerloyw i sicrhau 207 rhediad am drio o'u 20 pelawd ar ol dewis batio'n gyntaf.
Cafodd eu capten Michael Kinger 70 o rediadau oddi ar 47 pêl wrth i'r tîm cartref gynyddu eu sgôr.
Ond nid oedd modd gadael i Forgannwg fatio oherwydd y tywydd ac fe aeth pawb gartref.