Llawer yn dal ddim yn deall datganoli

  • Cyhoeddwyd
Cynulliad
Disgrifiad o’r llun,
Mae rhai dal yn y tywyllwch am y ffaith mai ym Mae Caerdydd mae rhai penderfyniadau'n digwydd

Dyw bron hanner poblogaeth Cymru ddim yn gwybod mai Llywodraeth Cymru sy'n gyfrifol am redeg y gwasanaeth iechyd.

Dyna yw canfyddiad arolwg barn arbennig gafodd ei gomisiynu gan BBC Cymru.

Cafodd yr arolwg ei gynnal ar ben-blwydd datganoli yn 15 oed, a hyd yn oed ar ôl yr holl amser yma roedd 43% yn meddwl mai llywodraeth y DU oedd yn rheoli'r GIG yng Nghymru.

Dim ond 48% oedd yn gwybod mai'r llywodraeth ddatganoledig sydd yn gyfrifol am ei reoli.

Pwy sy'n gyfrifol?

Mi fydd y canfyddiad yn taflu goleuni newydd ar y ffrae wleidyddol rhwng y ddau sefydliad, sy'n beio'i gilydd am wendidau yn y gwasanaeth iechyd.

Yn gynharach eleni dywedodd y Prif Weinidog David Cameron fod gofal mewn rhai ysbytai Cymreig mor wael nes bod Clawdd Offa'n prysur droi yn "ffin rhwng byw a marw".

Mae Llywodraeth Cymru'n dweud bod ei chyllideb wedi cael ei thorri gan San Steffan, a bod y galw am wasanaethau yn parhau i godi. Mae hefyd yn dadlau bod triniaethau mewn rhai meysydd yn well yng Nghymry nag yn Lloegr.

61% sy'n gwybod mai ym Mae Caerdydd mae'r penderfyniadau am addysg yn cael eu gwneud, gyda 31% o dan yr argraff bod adran Michael Gove yn gyfrifol am addysg yng Nghymru.

Y de-ddwyrain yn gweld budd?

Disgrifiad o’r llun,
Mi fydd Coleg Caerdydd a'r Fro yn agor yn 2015 - diolch i grant gan Lywodraeth Cymru

Roedd dryswch ynghylch plismona hefyd, gyda 42% o dan yr argraff mai Llywodraeth Cymru sy'n gyfrifol. Roedd 50% yn gwybod mai yn San Steffan mae'r pwerau hynny'n parhau i fod.

Mae rhai wedi galw am ddatganoli'r pwerau hyn gydag ymchwiliad trawsbleidiol diweddar yn argymell y dylai hyn ddigwydd.

Dim ond ychydig dros draean (34%) oedd yn meddwl fod datganoli wedi arwain at wellhad yn y ffordd mae Cymru'n cael ei llywodraethu, gyda 46% yn dweud ei fod "heb wneud llawer o wahaniaeth".

Roedd 31% yn meddwl mai'r de-ddwyrain oedd wedi gweld y budd mwyaf o ddatganoli ers '99, gyda 4% yn dweud y gogledd a dim ond 1% yn dweud y canolbarth.

'Dryswch'

Dywedodd yr Athro Roger Scully o Ganolfan Llywodraethiant Cymru: "Dyw'r ffigyrau yma ddim yn wych o ran dealltwriaeth y cyhoedd ynglŷn â phwy sy'n gyfrifol am beth.

"Rwy'n meddwl ei fod yn dangos fod dryswch ymysg pobl o ran lle mae'r llinell yn cael ei thynnu rhwng Llundain a Bae Caerdydd o ran cyfrifoldebau.

"Rydym yn gweld fod pethau yn well o ran addysg, a be mae hynny'n awgrymu yw bod datganoli yn cyffwrdd bywydau pobl. Efallai ei fod yn dibynnu ar gael plant, wyrion neu berthnasau yn yr ysgol, lle maen nhw'n gweld gwahaniaeth go iawn gyda'r ffordd mae pethau'n cael eu gwneud yn Lloegr, yna mae pobl yn dod yn fwy ymwybodol ohono."

Ychwanegodd: "Tu hwnt i hynny, er bod gan bobl rhyw fath o syniad bod llywodraeth ddatganoledig yng Nghymru a bod llywodraeth arall yn Llundain, mae'r manylion ynglŷn â phwy sy'n gwneud beth yn creu penbleth iddyn nhw,"

Roedd Mr Scully'n dweud ei fod yn credu bod peth tystiolaeth sy'n dangos fod pobl yn cael eu "ail-addysgu" am bolisïau datganoledig yn ystod ymgyrchoedd etholiadol y Cynulliad.

Ymateb

Mewn ymateb i ganlyniadau'r arolwg, dywedodd Llywydd y Cynulliad, Y Fonesig Rosemary Butler AC, fod y Cynulliad wedi ymrwymo fwy nag erioed i "dynnu sylw at yr hyn mae'n gwneud, a'r modd mae'n effeithio ar fywydau pobl Cymru".

Ychwanegodd: "Mae'r arolwg yn dangos fod yna waith yn dal i wneud, ac er bod ein pwerau a'n cyfrifoldebau yn parhau i ddatblygu, rydw i a fy nghyd-weithwyr wedi adnabod hynny fel blaenoriaeth ac mae gennym nifer o raglenni ar y gweill i sicrhau fod hynny'n digwydd.

Dywedodd y Democratiaid Rhyddfrydol fod y ffigyrau yn "destun pryder".

Yn ôl AC De Orllewin Cymru, Peter Black: "Mae'n siomedig, 15 mlynedd ers i'r Cynulliad agor, fod llawer o bobl yng Nghymru ddim yn gwybod am gyfrifoldebau Llywodraeth Cymru.

"Un o'r heriau mwyaf sy'n wynebu datganoli yw sicrhau bod pobl yn gwybod pa lywodraeth sy'n gyfrifol am beth."

Cyfeiriodd llefarydd ar ran y Ceidwadwyr Cymreig at "fethiannau" Llafur wrth redeg prif wasanaethau fel Iechyd ac Addysg.

Meddai: "Mae'n glir fod angen gwneud gwaith i godi ymwybyddiaeth am ddatganoli ac mae gan y cyfryngau rôl amlwg yn hynny.

"Rwy'n gobeithio y bydd yr arolwg hwn yn tanlinellu'r methiannau o fewn y gwasanaethau rheng-flaen sydd dan ofal Llafur."

Mae BBC Cymru wedi gofyn am ymateb gan Gomisiwn y Cynulliad.

Fe wnaeth ICM Research gyfweld â sampl ar-hap o 1004 o oedolion 18+ ar y ffôn rhwng 22 Mai a 1 Mehefin, 2014. Cafodd y cyfweliadau eu cynnal ledled Cymru ac maen nhw wedi eu pwyso i ystyried proffil holl oedolion Cymru. Mae ICM yn aelod o'r Cyngor Arolwg Prydeinig ac yn dilyn ei reolau.