Deepcut: Heddlu'n clustnodi £1.3m

  • Cyhoeddwyd
Cheryl James
Disgrifiad o’r llun,
Roedd Cheryl James o Langollen yn un o'r pedwar fu farw ym marics Deepcut

Mae'r BBC ar ddeall bod Heddlu Surrey wedi clustnodi £1.3 miliwn i ddelio gydag achosion marwolaethau pedwar milwr ym marics Deepcut rhwng 1995 a 2002.

Mae Heddlu Surrey wedi pwysleisio nad ymchwiliad newydd fydd yn cael ei gynnal, ond yn hytrach bod y llu wedi clustnodi arian i ddarparu gwybodaeth i deuluoedd y milwyr ac i dalu'r bil pe bai angen iddyn nhw ddarparu tystiolaeth mewn pedwar cwest newydd.

Un o'r pedwar fu farw oedd Cheryl James o Langollen.

Ym mis Mawrth eleni fe wnaeth y twrnai cyffredinol, Dominic Grieve, ganiatáu cais i'r Uchel Lys am gwest newydd i farwolaeth Cheryl James.

'Dim ymchwiliad newydd'

Ddydd Llun fe ddywedodd Heddlu Surrey mewn datganiad:

"Yn gynnar yn 2012 fe gafodd Heddlu Surrey gais gan gyfreithwyr ar ran Mr Des James {tad Cheryl James} i ddatgelu'r holl wybodaeth am yr ymchwiliad i farwolaeth ei ferch.

"Cytunodd y llu i wneud hynny ar sail wirfoddol, ac yn dilyn cais i ailagor y cwest mae'r Twrnai Cyffredinol wedi caniatáu i'r cais gael ei glywed gan yr Uchel Lys.

"Mae Heddlu Surrey nawr wedi derbyn ceisiadau tebyg gan gynrychiolwyr teuluoedd Sean Benton, Geoff Gray a James Collinson.

"Rydym wedi sefydlu tîm bychan i ddelio gyda'r ceisiadau yma ac i gefnogi unrhyw wrandawiadau neu gwestau i ddod. Gofynnodd y Prif Gwnstabl i'r Comisiynydd Heddlu a Throsedd am gyllid i'r tîm ac unrhyw gostau cyfreithiol a ddaw ac mae'r Comisiynydd wedi cymeradwyo'r cais.

"Mae'n bwysig nodi nad ymchwiliad newydd yw hwn i'r pedair marwolaeth.

"Mae'r cyllid wedi ei glustnodi i dalu am staffio'r tîm a chostau cyfreithiol, a'r amcangyfrif yw y bydd y gost hyd at £1.3m dros y ddwy flynedd nesaf."

Fe fydd yr heddlu hefyd yn siarad gyda'r uwch-swyddogion yn y barics ar yr adeg pan fu farw'r pedwar rhwng 1995 a 2002.