Llais Gwynedd yn dewis Seimon Glyn

  • Cyhoeddwyd
Arglwydd Elis-Thomas o Nant Conwy
Disgrifiad o’r llun,
Aelod Cynulliad presennol Dwyfor Meirionnydd yw'r Arglwydd Dafydd Elis-Thomas

Mae plaid Llais Gwynedd wedi dewis un o'u cynghorwyr amlycaf i frwydro etholaeth Dwyfor Meirionnydd yn Etholiadau'r Cynulliad yn 2016.

Mae Seimon Glyn wedi cynrychioli ward Tudweiliog ar hen Gyngor Dosbarth Dwyfor ac yna Cyngor Gwynedd ers chwarter canrif.

Bu Mr Glyn ar un cyfnod yn cynrychioli Plaid Cymru, ond fe fydd nawr yn sefyll mewn sedd sy'n cael ei chynrychioli gan un o enwau mawr y Blaid, yr Arglwydd Elis Thomas, yn Etholiadau'r Cynulliad.

Roedd Mr Glyn yn un o sylfaenwyr Llais Gwynedd a sefydlwyd yn 2007 i herio polisïau Cyngor Gwynedd ar gau ysgolion bach - roedd y cyngor ar y pryd o dan reolaeth Plaid Cymru.

Dywedodd Seimon Glyn: "Mae'r amser wedi dod i mi ddefnyddio fy mhrofiad eang o lywodraeth leol ar lefel genedlaethol er budd cymunedau Dwyfor Meirionnydd.

"Mae'r etholwyr yn dweud wrthyf eu bod wedi cael digon o'r prif bleidiau ac yn dymuno gweld syniadau newydd a llais annibynnol are eu rhan yn y Cynulliad Cenedlaethol."

Mae Mr Glyn yn 54 oed ac yn rheolwr gyda'r elusen plant, Action for Children.